“Eglwysi Agored”– Gŵyl Treftadaeth Eglwysi gyntaf erioed de Cymru

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn falch o ymwneud â’r ŵyl dreftadaeth Eglwysi Agored gyntaf erioed i’w chynnal yn y de yn ddiweddarach yn ddiweddarach yr wythnos hon. Meddai ein Hysgrifennydd a’n Prif Weithredwr, Christopher Catling, Cadeirydd Fforwm Addoldai Hanesyddol Cymru: “Rwy’n cymeradwyo’r fenter hon. Mae gan Gymru botensial mawr o safbwynt twristiaeth gynaliadwy sy’n seiliedig ar ein treftadaeth gyfoethog o adeiladau eglwysig hanesyddol. Rwy’n gobeithio y bydd yr ŵyl hon yn annog llawer mwy o eglwysi a chapeli i agor eu drysau yn y dyfodol i groesawu ymwelwyr a rhannu’r rhinweddau sy’n gwneud eglwysi, capeli a mynwentydd yn fannau mor arbennig.”

“Eglwysi Agored”– Gŵyl Treftadaeth Eglwysi gyntaf erioed de Cymru

Manylion yr ŵyl:

Bydd deg o eglwysi hanesyddol ledled y de yn agor eu drysau y mis yma ar gyfer yr ŵyl dreftadaeth Eglwysi Agored gyntaf erioed. Caiff yr ŵyl ei threfnu gan Esgobaeth Llandaf yr Eglwys yng Nghymru a bydd yn para naw diwrnod, o ddydd Sadwrn 18 Mehefin i ddydd Sul 26 Mehefin.

Bydd yr ŵyl yn dathlu pwysigrwydd hanesyddol eglwysi i dreftadaeth a diwylliant Cymru ac yn hyrwyddo eu rôl mewn cymunedau lleol fel mannau sy’n hybu lles ysbrydol ac ymgysylltu cymunedol.

Cafodd y deg eglwys eu dewis oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol a’u hanesion cudd. Er enghraifft, gall y sawl sy’n hoff o straeon am droseddau go iawn ddarganfod y ‘garreg lofruddiaeth’ o’r 19eg ganrif a dod i wybod mwy am lofruddiaeth Margret Williams yn 1822, na chafodd neb ei chosbi amdani. I’r sawl sydd â diddordeb mewn James Bond a chrefft ysbïo, ceir cofeb i ysbïwr o’r Ail Ryfel Byd a drodd yn fynach.

At hynny, gall ymwelwyr roi cynnig ar ganu clychau, dylunio ffenestr liw, cerdded yng nghefn gwlad neu gymryd rhan mewn eco-weithgareddau yn un o’r nifer o fynwentydd sy’n hafan o wyrddni. Mae cyfle hefyd i fwynhau lletygarwch traddodiadol eglwysi, sef te a chacennau cartref.

Meddai Sarah Perons, Swyddog Datblygu Eglwysi ac un o Gomisiynwyr y Comisiwn Brenhinol, “Mae Covid yn golygu bod ein heglwysi wedi gorfod bod ar gau am ran helaeth o’r ddwy flynedd ddiwethaf. Mae ein hadeiladau wedi ailagor erbyn hyn ac rydym am annog eglwysi i gymryd y cyfle hwn i fod yn agored ac yn groesawgar i ymwelwyr. Rydym am gynnig profiad cadarnhaol a dymunol i bawb ar ôl Covid.

Eglwysi yw rhai o’r adeiladau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru. Cânt eu disgrifio’n aml fel cerrig milltir o ran amser a lle. Yn ogystal ag adrodd straeon eu cymunedau lleol, maent hefyd yn adrodd hanes datblygiad celf a phensaernïaeth mewn cyd-destun Cymreig.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn delweddau o bensaernïaeth a chelfyddyd drawiadol eglwysi, a gwyddom fod gan y cyhoedd gryn ddiddordeb mewn ymweld ag eglwysi ac mewn twristiaeth sy’n gysylltiedig ag eglwysi.

Nid oes yn rhaid i chi fod yn rhywun sy’n mynychu’r eglwys i fod â diddordeb yn ei hanes a’i phensaernïaeth. Gallwch werthfawrogi’r adeilad fel tirnod hanesyddol pwysig a phrydferth.”

Mae Eglwysi Agored yn gobeithio denu credinwyr yn ogystal â phobl sydd heb ymweld ag eglwys erioed o’r blaen efallai. Trwy gynnal digwyddiadau diddorol ar gyfer y teulu cyfan, nod yr ŵyl yw hyrwyddo adeiladau eglwysi fel addoldai ac fel atyniadau i ymwelwyr.

Dangosodd ymchwil a gyflawnwyd ar ran Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn 2018 y byddai chwarter oedolion Prydain yn fwy tebygol o ymweld ag adeilad eglwys, capel neu dŷ cwrdd fel gweithgaredd hamdden neu fel atyniad i ymwelwyr pe bai yno gyfleusterau sy’n addas i ymwelwyr. Byddai un o bob pump yn fwy tebygol o ymweld pe bai yno ddigwyddiadau diwylliannol neu pe bai’r adeilad ar agor i ymwelwyr.

Fel rheol, nid yw mwyafrif y 10 eglwys sy’n cymryd rhan yn yr ŵyl Eglwysi Agored ar agor i ymwelwyr. Dyma’r eglwysi sy’n cymryd rhan:

  1. Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd, CF5 2LA
  2. Eglwys Santes Fair y Forwyn, Stryd Bute, Caerdydd, CF10 5HB
  3. Eglwys Sant Catwg, Llangatwg, SA10 8AS
  4. Eglwys Sant Thomas, Castell-nedd, SA11 3LL
  5. Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Llanfihangel y Bont-faen, Bro Morgannwg, CF71 7LQ
  6. Eglwys Sant Theodore, Port Talbot, SA13 1LE
  7. Eglwys Sant Cynwyd, Llangynwyd, Maesteg, CF34 9SB
  8. Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Beddau, Llantrisant, CF38 2BE
  9. Eglwys Saint Andras, Saint Andras, Bro Morgannwg, CF64 4HD
  10. Eglwys Ioan Fedyddiwr, Troed-y-rhiw, Merthyr Tudful, CF48 4EX

Bydd yr ŵyl Eglwysi Agored yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 18 Mehefin yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a bydd yn cynnwys perfformiad gan Alys Huws, telynores swyddogol Tywysog Cymru, a cherddorion ifanc o’r prosiect arobryn ‘Creu Cerddoriaeth Newid Bywydau’ yn Nhrelái, Caerdydd, yn ogystal â theithiau o amgylch tŵr yr Eglwys Gadeiriol, eco-weithgareddau hwyliog i blant yn y fynwent a gweithdy dylunio ffenestri lliw.

Bydd yr ŵyl Eglwysi Agored yn cael ei chynnal rhwng dydd Sadwrn 18 Mehefin a dydd Sul 26 Mehefin. Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy fynd i:
Gŵyl ‘Eglwysi Agored’ – Esgobaeth Llandaf (churchinwales.org.uk)

  1. Buodd ComRes yn cyfweld 2,037 o oedolion ym Mhrydain Fawr ar-lein rhwng 14 ac 16 Medi 2018. https://comresglobal.com/polls/national-churches-trust-visiting-churches-survey/
  2. Esgobaeth Llandaf yw’r esgobaeth fwyaf poblog o blith chwe esgobaeth Cymru. Mae ei hardal yn ymestyn o orllewin Caerdydd yn y dwyrain i Gastell-nedd yn y gorllewin a Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn y gogledd.

06/13/2022

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x