
Ein Gorffennol Digidol: arddangosfa ar dechnolegau newydd ym meysydd treftadaeth a dehongli
Bydd arddangosfa gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n rhoi sylw i ffyrdd cyffrous ac arloesol o edrych ar ein treftadaeth yn agor ar 5 Chwefror 2020 yng Nghaffi Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yn yr arddangosfa Ein Gorffennol Digidol cewch weld delweddau trawiadol a grëwyd gan y Comisiwn Brenhinol wrth ymgymryd â’i waith arolygu a dehongli, gan gynnwys ailgreadau cyfrifiadurol 3D fel ‘Y Bont’, cerflun gan Jonah Jones a fu yng Ngholeg Harlech gynt; ffotograffiaeth gigapicsel yn gysylltiedig â theithiau Teithwyr o Ewrop; arolygon laser-sgan o safleoedd yn amrywio o Eglwys Llanfihangel-y-Creuddyn ac olwyn ddŵr danddaearol mwynglawdd Ystrad Einion yng Ngheredigion i Abaty Tyndyrn sydd yng ngofal Cadw; arolygon LiDAR o rai o ynysoedd Cymru; ac arolygon data sonar-amlbaladr o longddrylliadau ar hyd arfordir Cymru sy’n dyddio o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Meddai Christopher Catling, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, “Mae technoleg ddigidol wedi datblygu’n aruthrol o gyflym yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac mae’r arddangosfa hynod o ddiddorol hon yn dangos sut mae’r Comisiwn Brenhinol yn defnyddio dulliau arloesol newydd i gofnodi a dehongli’r dreftadaeth – o dan y ddaear, ar y tir, ac o dan y môr”.

Mae’r arddangosfa hon, a gynhelir rhwng 5 Chwefror a 23 Mawrth 2020, yn nodi unfed Gynhadledd Gorffennol Digidol ar ddeg y Comisiwn Brenhinol (Chwefror 12 ac 13) sy’n hybu dealltwriaeth o’r cymwysiadau digidol diweddaraf ym maes treftadaeth. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/cynhadledd-gorffennol-digidol/gorffennoldigidol2020/. Gall pobl sydd â nam ar eu golwg fwynhau’r arddangosfa drwy ddefnyddio app rhyngweithiol.
O gymylau pwyntiau i fydoedd rhithwir, dewch i weld treftadaeth Cymru fel nad ydych erioed wedi’i gweld o’r blaen!

05/02/2020