
Ein prif siaradwyr – parhad
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r tri siaradwr a fydd yn rhoi sgyrsiau yn ein hail brif sesiwn yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2018. Ar yr 8fed o Chwefror, yn y prynhawn, byddwn yn croesawu John Andersson (Wikimedia Sverige), Meri Huws (Comisiynydd y Gymraeg) a James Stark (Prifysgol Leeds) i’r digwyddiad.
John Andersson yw Cyfarwyddwr Gweithredol Wikimedia Sverige. Mae ganddo gefndir mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a bu’n gweithio i Wikipedia Sverige mewn nifer o wahanol swyddi, cyn dod yn Brif Swyddog Gweithredu yn 2016 ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn 2017. Bydd John yn siarad am Brosiect Treftadaeth Agored Gysylltiedig Wikipedia, sydd â’r nod o wella strwythur a chwiliadwyedd gwybodaeth am dreftadaeth ddiwylliannol ddisymud ledled y byd, yn enwedig mewn perthynas â’r hyn sydd mewn perygl o ganlyniad i ryfel, trychinebau, esgeulustod a gwaith cynnal gwael. Bydd y cyflwyniad yn rhoi sylw i’r gwersi a ddysgwyd wrth ymdrin â set ddata unigryw sy’n deillio o 50 o wledydd.
Meri Huws yw Comisiynydd y Gymraeg. Bu Meri yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a hefyd yn ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor ac ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn ei swydd bresennol mae hi’n gyfrifol am hybu’r iaith Gymraeg a’i defnydd, gan sicrhau ei bod hi’n cael ei thrin yn gyfartal â’r iaith Saesneg. Bydd sgwrs Meri, Y Traddodiad Digidol, yn canolbwyntio ar y rhan y gall technolegau digidol ei chwarae mewn deall a gwarchod yr iaith Gymraeg fel rhan hanfodol o’n treftadaeth, cyflwyno hanes y Gymraeg a diwylliant Cymraeg i gynulleidfaoedd newydd er mwyn hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad, yn ogystal â diogelu gwybodaeth werthfawr.
Dr James Stark yw Athro Cyswllt y Dyniaethau Meddygol ym Mhrifysgol Leeds. Mae’n arbenigo yn hanes meddygaeth a defnyddio offer digidol arloesol i archwilio, deall ac esbonio’r hanesion heriol hyn. Yn ddiweddar mae James wedi cyd-gyhoeddi adroddiad, Experiencing the Digital World: The Cultural Value of Digital Engagement with Heritage, a gyflwynodd gasgliadau prosiect wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i asesu gwerth prosiectau digidol yn y sector treftadaeth a sut y byddwn yn mesur ac yn cloriannu’r gwerth hwnnw. Yn ei sgwrs, Ymgysylltu Digidol â Hanesion Heriol, bydd James yn cyflwyno casgliadau ei astudiaeth ac yn trafod sut y gall y byd digidol gynhyrchu cysylltiadau empathig rhwng gwahanol gynulleidfaoedd a threftadaeth, er bod problemau ynghlwm wrth hyn. Bydd hefyd yn trafod ei brosiect dilynol, Yarn: nod y prosiect hwn oedd datblygu offer i fynd i’r afael â’r problemau a gododd yn y prosiect gwreiddiol. Bydd yn gorffen drwy fesur a phwyso llwyddiant yr offer hyn.
12/13/2017