
Enillydd Gwobr Diwrnod Agored y Comisiwn Brenhinol

Mr Mike Buzzard yn derbyn ei wobr yn llyfrgell y Comisiwn Brenhinol.
Yn dilyn llwyddiant Diwrnod Agored y Comisiwn Brenhinol a gynhaliwyd y mis diwethaf, daeth enillydd lwcus y gystadleuaeth tynnu enw o het i nôl ei wobr heddiw. Roedd Mr Mike Buzzard o Bontrhydfendigaid yn hynod falch o dderbyn copi o Hidden Histories, llyfr canmlwyddiant llawn lluniau y Comisiwn Brenhinol, a dywedodd wrth y staff gymaint yr oedd ef wedi mwynhau digwyddiadau’r Diwrnod Agored poblogaidd.
I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau a drefnir gan y Comisiwn Brenhinol, beth am ymuno â’n Rhwydwaith Cyfeillion di-dâl a chael gwybod am newyddion a gweithgareddau diweddaraf y Comisiwn Brenhinol a mwynhau gostyngiad o 10% ar ein llyfrau?
30/08/2012