Castell Nadolig o’r awyr yng ngolau isel y gaeaf, Rhagfyr 2019

Enwau Lleoedd Nadoligaidd

Canys y daeth Cristnogaeth mor gynnar i Gymru, a’r Nadolig o’r herwydd yn cael ei dathlu yma ers bron i 1700 o flynyddoedd, nid syndod mo’r ffaith bod yr ŵyl wedi gadael ei hôl ar enwau lleoedd y wlad.

Rhan o’n Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn dangos enwau’n cynnwys y gair Bethlehem
Rhan o’n Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn dangos enwau’n cynnwys y gair Bethlehem.

Mae’r rhan fwyaf o’r enwau Nadoligaidd hyn yn enwau capeli, oherwydd tueddiad ymneilltuwyr i enwi eu capeli ar ôl llefydd yn y Beibl. Dyna sy’n esbonio pam bod cymaint o lefydd o’r enw Bethlehem neu Nasareth yng Nghymru, boed yn gapeli, neu’n bentrefi a enwyd ar ôl eu capel, fel Bethlehem ym mhlwyf Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Mae’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn cynnwys 35 man o’r enw Bethlehem ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn gapeli. Mae hi hefyd yn cynnwys cae o’r enw Park Bethlehem o 1841 ym mhentref Pwll-trap yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r cae ar bwys Capel Bethlehem, ac mae’n debyg ei fod yn eiddo i’r capel.

Mae cae arall o’r enw Bethlehem y tu allan i Gaergwrle, Sir y Fflint. Nid oes capel o’r enw yn yr ardal, ond mae’r cae yn ffinio â Bedlam Lane, ac mae’n debyg bod Bedlam yn llugurniad o Bethlehem, fel y gwelir yn enw’r ysbyty cleifion iechyd meddwl enwog yn Llundain, a enwyd yn wreiddiol yn Hospital of St. Mary of Bethlehem. Ceir enghraifft ddiddorol o enw fferm yn Sir Gaernarfon, sef Glan-Bethlehem ym mhlwyf Llanllechid. Mae’r fferm ar draws y ffordd o Gapel Bethlehem.

Lleoliad enwau Bethlehem ym mhlwyf Llanllechid, Sir Gaernarfon
Lleoliad enwau Bethlehem ym mhlwyf Llanllechid, Sir Gaernarfon.

Er mai ym Methlehem y ganwyd yr Iesu, hanai ei deulu o dref Nasareth, felly mae’r lleoliad hwnnw wedi gadael ei farc ar dirlun Cymru hefyd, gyda 17 lle o’r enw Nasareth neu Nazareth. Eto, mae’r mwyafrif ohonynt yn gapeli.

Rhan o’n Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn dangos enwau’n cynnwys y gair Nazareth
Rhan o’n Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol yn dangos enwau’n cynnwys y gair Nazareth.

Mae’r gair Nadolig ei hun yn ymddangos ymysg enwau lleoedd y wlad, ac mae’n debyg mae Castell Nadolig ym Mhenbryn, Ceredigion yw’r enghraifft enwocaf. Mae Castell Nadolig yn fryngaer sy’n edrych dros Fae Ceredigion y credir ei fod yn ganolfan bwysig yn y canrifoedd olaf cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Cofnododd Iwan Wmffre yn Place Names of Cardiganshire mai ‘Kastell yn Dolig’ oedd enw’r lle mewn llawysgrif yn dyddio o 1571/2, ac mae Cofnodion Ystâd Gogerddan yn rhoi’r ffurf bresennol ar yr enw ym 1594.

Am ragor o wybodaeth ar y safle hwn, gwelwch flog cynharach gan Dr Toby Driver, sy’n trafod y pâr o lwyau dewindabaeth gyn-Gristnogol a ddarganfuwyd yno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Castell Nadolig o’r awyr yng ngolau isel y gaeaf, Rhagfyr 2019
Castell Nadolig o’r awyr yng ngolau isel y gaeaf, Rhagfyr 2019.

Ceir dau le arall yn dwyn yr enw ‘Nadolig’, sef fferm Castell-nadolig yn Orllwyn Teifi, Ceredigion, a chae ym Mhentrefoelas o’r enw ‘Pant Nadolig’.

Ceir ambell enw Saesneg ar thema’r Nadolig hefyd, fel Holy Nativity Church, eglwys Anglicanaidd ym Mhenarth, a adeiladwyd fel eglwys genhadaeth ym 1893-4, a Christmas Wood y tu allan i Fyddfai, Sir Gaerfyrddin.

Lleoliad Christmas Wood, Sir Gaerfyrddin
Lleoliad Christmas Wood, Sir Gaerfyrddin.

Am ragor o wybodaeth am enwau lleoedd yng Nghymru, ewch at ein Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol https://enwaulleoeddhanesyddol.cbhc.gov.uk/. Mae’n darparu dirnadaeth ddiddorol i ddefnydd tir, archeoleg a hanes Cymru!

Dymuna pawb yn y Comisiwn Brenhinol Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi.

Gan Dr James January-McCann, Swyddog Enwau Llefydd

12/20/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x