
Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol – A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd wedi’i chynnal gan yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor
16 Ionawr 2020, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol, A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd, 6pm, wedi’i chynnal gan yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor, yn Ystafell Cemlyn Jones (PL5), Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ. Gan fod cymaint o alw, rydym yn cynnig cyfle i fynychu Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ym Mangor. Rhoddir y sgwrs gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear). Fel rhan o’r prosiect CHERISH – Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol – mae ymchwiliadau cyffrous newydd yn cael eu gwneud i ddatgelu cyfrinachau bryngaer Dinas Dinlle cyn iddi gael ei cholli i’r môr. Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar uchafbwyntiau’r gwaith diweddar ar y safle, gan gynnwys cloddiadau 2019 a ddadorchuddiodd un o’r tai crwn mwyaf ei faint a mwyaf cyflawn yng Ngogledd Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn.
I gofrestru ar gyfer tocynnau ar-lein, ewch i: https://ti.to/digital-past/a-story-of-sand-sea-and-storms-uncovering-the-secrets-of-dinas-dinlle-hillfort-in-gwynedd-prifysgol-bangor
Byddwch cystal â nodi y rhoddir y ddarlith hon am 5pm ar 5 Rhagfyr 2019 yn Aberystwyth hefyd.
Dyddiad | 16th January |
Amser | 6pm |
Lleoliad | Ystafell Cemlyn Jones (PL5), Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ |
Math | The Royal Commission Christmas Lecture |
Gwestai Arbennig | Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear) |