Cloddiadau Archaeolegol a Diwrnod Agored i’r Cyhoedd yn Ninas Dinlle, bryngaer o’r Oes Haearn

Ar 7-9, 12-16 a 19-20 Awst fe fydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnal cyfres o ddyddiau cloddio ym mryngaer Dinas Dinlle gyda chefnogaeth prosiect CHERISH y Comisiwn Brenhinol. Mae’r fryngaer arfordirol drawiadol hon, sy’n erydu’n gyflym, yn ganolbwynt i waith arolygu archaeolegol a pheillegol newydd sy’n cael ei wneud fel rhan o brosiect CHERISH 2017-2021 Iwerddon-Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Ar Ddydd Sadwrn 17 Awst fe gynhelir Diwrnod Agored CHERISH ar y safle a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddysgu mwy am ei hanes, chwedlau a thirwedd, a chlywed am yr ymchwil diweddaraf i effeithiau newid hinsawdd ar yr heneb eiconig hon o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim, ond rhaid i chi archebu’ch lle os ydych am gymryd rhan yn y gwaith cloddio gan fod nifer cyfyngedig o leoedd ar gael. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â dan.amor@heneb.co.uk, ffôn: 01248 366970.

 

Dyddiad 20th August
Lleoliad Dinas Dinlle
Math Cloddiadau a Diwrnod Agored

Tweets