
Gohirio neu ganslo: Carto-Cymru 2020: Symposiwm Mapiau Cymru – Arolygu’r Strydoedd.
22 Mai, Carto-Cymru 2020: Symposiwm Mapiau Cymru – Arolygu’r Strydoedd. Bydd symposiwm undydd eleni’n canolbwyntio ar sut mae trefi a dinasoedd wedi cael eu mapio ar hyd y canrifoedd a sut y gall hyn ein helpu i ddeall hanes a phrosesau twf trefol. Bydd y sgyrsiau’n cynnwys Townscapes: A View from Above gan David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus y Comisiwn Brenhinol.
Bydd arddangosfa o eitemau dethol yn cael ei threfnu i gyd-fynd â’r symposiwm. Digwyddiad partneriaeth yw hwn a gynhelir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar y cyd â’r Ymddiriedolaeth Trefi Hanesyddol. Mynediad £20, gan gynnwys lluniaeth yn y bore a’r prynhawn a chinio bwffe. I gael mwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i: https://www.ticketsource.co.uk/whats-on/aberystwyth/llyfrgell-genedlaethol-cymru-the-national-library-of-wales/carto-cymru-symposiwm-mapiau-cymru-the-wales-map-symposium-2020/e-exdrvl, neu ffoniwch: 01970 632 548.
Dyddiad | 22nd May |
Amser | 9:30 - 16:30 |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Math | Symposiwm |
Gwestai Arbennig | David Thomas |