Lansiad Cymru a’r Môr: 10,000 o flynyddoedd o hanes y môr

 Lansiad Cymru a’r Môr: 10,000 o flynyddoedd o hanes y môr / Wales and the Sea: 10,000 years of maritime history yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, 2.30pm. Llyfr hardd y ceir ynddo ryw 400 o ddelweddau o ansawdd uchel yw Cymru a’r Môr/Wales and the Sea. Mae’n dathlu Blwyddyn Darganfod Cymru 2019 drwy adrodd ein hanes morwrol o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw. Cynhyrchwyd y llyfr gan y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Lolfa, a’r cyfranwyr yw rhai o haneswyr ac archaeolegwyr mwyaf adnabyddus Cymru. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Nicola Roberts: nicola.roberts@rcahmw.gov.uk; ffôn: 01970 621248.

Dyddiad 24th October
Amser 2.30pm -4.30pm
Lleoliad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau,Abertawe
Math  Lansiad
Gwestai Arbennig Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Tweets