CBHC / RCAHMW > Events > Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr/Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History, 1pm, Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd.

Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr/Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History, 1pm, Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd.

27 Chwefror, Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr/Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History, 1pm, Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd.  Cyflwyniad gan Dr Mark Redknap ar gyd-gyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn, Cymru a’r Môr. Ceir yn y llyfr hwn fwy na 400 cant o luniau o ansawdd uchel a ddewiswyd o gasgliadau enfawr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Amgueddfa Cymru. Bydd y cyflwyniad darluniadol yn agor cil y drws ar hanes cyffrous ond anghyfarwydd perthynas Cymru â’r môr yn ystod y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig, canoloesol a modern. Ar ôl y digwyddiad fe fydd Dr Mark Redknap yn llofnodi copïau o’r llyfr y bydd modd ei brynu am bris gostyngol arbennig. Rhoddir y sgwrs hon i gyd-fynd â’r arddangosfa Cymru a’r Môr, menter ar y cyd rhwng y Comisiwn Brenhinol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Cadw, sy’n cael ei dangos ar hyn o bryd yng Nghanolfan Glan-yr-afon hyd 27 Mehefin 2020. Rhai o’r eitemau diddorol y gellir eu gweld yn yr arddangosfa yw’r gwregys achub a achubodd yr Is-iarll Rhondda pan suddwyd y Lusitania ym 1915, Collecting Shells gan Claudia Williams, arlunydd a fu’n gweithio yn Sir Benfro, a theipysgrif wreiddiol o We Lying by Seasand gan Dylan Thomas. Mynediad am ddim drwy docyn. I gofrestru ar gyfer tocynnau ar-lein, ewch i: https://www.ticketsource.co.uk/glan-yr-afon

Dyddiad 27th February
Amser 13:00
Lleoliad Llyfrgell Glan-yr-afon, Hwlffordd
Math Sgwrs
Gwestai Arbennig Dr Mark Redknap

Tweets