A Summer of Discovery in Wales: Aerial Archaeology and the Remarkable Heatwave of 2018 – Bangor

Hysbysiad canslo 

Mae’n ddrwg gennym gyhoeddi na fydd y sgwrs heno yn Pontio, Bangor, gan Dr Toby Driver am 5pm yn cael ei chynnal oherwydd profedigaeth deuluol sydyn. Bydd dyddiad newydd ar gyfer y sgwrs yn cael ei gyhoeddi mor fuan â phosibl. Bydd yr holl docynnau’n ddilys ar gyfer y ddarlith a aildrefnir.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster a achosir.

 

3 Rhagfyr, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol wedi’i chynnal gan yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor, A Summer of Discovery in Wales: Aerial Archaeology and the Remarkable Heatwave of 2018 – Bangor gan Dr Toby Driver 5 pm, Ystafell Cemlyn Jones (PL2), Pontio, Canolfan y Celfyddydau ac Arloesedd, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ.

Mewn ymateb i alw poblogaidd, mae cyfle yn awr i wrando ar Ddarlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol ym Mangor, Gwynedd. Ymunwch â Toby ar daith syfrdanol drwy’r awyr ar draws caeau cras Cymru yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf 2018 pan ddaeth ugeiniau o safleoedd archaeolegol newydd i’r golwg fel olion cnydau ac olion crasu. Edrychir ar ddarganfyddiadau pwysig o bob rhan o Gymru, gan gynnwys nifer o safleoedd nad yw’r cyhoedd wedi’u gweld o’r blaen, a thrafodir eu harwyddocâd. Rhoddir sylw hefyd i’r diddordeb mawr a ddangosodd y cyfryngau yn y darganfyddiadau, pan ymddangosodd olion cnydau Cymru ochr yn ochr â digwyddiadau mawr y byd ar wefan y New York Post. Mynediad am ddim drwy docyn. I archebu tocynnau ar-lein, ewch i: https://ti.to/digital-past/haf-o-ddarganfyddiadau-yng-nghymru-archaeoleg-o-r-awyr-a-gwres-mawr-2018-bangor 

Byddwch cystal â nodi y bydd y ddarlith hon yn cael ei rhoi hefyd yn Aberystwyth am 5.30pm ar 6 Rhagfyr. Os ydych eisoes wedi archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn Aberystwyth, gallwch ganslo’ch archeb wreiddiol ar gyfer y ddarlith yno os dymunwch a mynd i’r digwyddiad ym Mangor yn lle hynny. I gael mwy o gymorth a gwybodaeth, cysylltwch â Nicola Roberts nicola.roberts@cbhc.gov.uk, ffôn: 01970 621248.

Dyddiad 4th December
Amser 17:00 - 18:00
Lleoliad Ystafell Cemlyn Jones (PL2), Pontio, Canolfan y Celfyddydau ac Arloesedd, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ
Math Darlith
Gwestai Arbennig Dr Toby Driver

Tweets