
Abermagwr Roman Villa, Ceredigion: Innovation and Wealth at the Edge of the Empire
24 Ionawr 2019, Cymdeithas Archaeoleg Caerdydd, 7.15pm. Sgwrs gan Dr Toby Driver ar Abermagwr Roman Villa, Ceredigion: Innovation and Wealth at the Edge of the Empire. Cafodd fila Rufeinig Abermagwr ei darganfod yn 2006 wrth astudio awyrluniau, a bu Toby Driver a Jeffrey Davies yn cloddio yno rhwng 2010 a 2015. Hon yw’r unig fila Rufeinig yng Ngheredigion y gwyddom amdani a dyma’r fila fwyaf anghysbell yng Nghymru. Gall hawlio to llechi cynharaf Ceredigion, ac ar y llechi unigol gallwn weld rhai o’r marciau töwr cynharaf yn y wlad. Daethpwyd o hyd i lestr o wydr nadd hynod addurnedig sydd o ansawdd gwell na bron unrhyw lestr bwrdd Rhufeinig arall yng Nghymru. Bydd y sgwrs yn trafod darganfod y fila a’r gwaith cloddio yno, ac arwyddocâd cael adeilad mor anarferol yn nhirwedd Rufeinig ddiweddar canolbarth Cymru. Rhoddir y sgwrs yn y Ddarlithfa Cemeg Fach (Ystafell 1.122), Y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays.
Dyddiad | 24th January |
Amser | 7.15pm |
Lleoliad | Prifysgol Caerdydd, Parc Cathays |
Math | Darlith |
Gwestai Arbennig | Dr Toby Driver |