
Aerial Archaeology and the Gwent Levels
Darlith Gyda’r Nos ar Wastadeddau Byw ac Archaeoleg o’r Awyr: Aerial Archaeology and the Gwent Levels gan Dr Toby Driver. Rhoddir sylw yn y ddarlith i archaeoleg syfrdanol Gwastadeddau Gwent rhwng Cas-gwent yn y dwyrain a Chaerdydd yn y gorllewin.
Gan esgyn i’r awyr mewn awyren ysgafn, gwelwn olion cnydau sy’n dangos lleoliad hengorau, tomenni claddu, bryngaerau, a filâu Rhufeinig, sy’n parhau i gael eu darganfod yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod sychder haf ac yng ngolau isel y gaeaf.
Bydd hediadau’r Comisiwn Brenhinol yn ystod y flwyddyn hefyd yn cofnodi henebion hanesyddol a henebion wedi’u gwarchod, tirweddau diwydiannol, trefweddau, ac archaeoleg blaendraeth Aber Afon Hafren sy’n dod i’r golwg yn ystod llanwau eithriadol o isel.
Eglurir hefyd sut mae dronau a laser-sganio o’r awyr wedi chwyldroi cofnodi archaeolegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Bydd Toby ar gael ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y cyflwyniad.
I gael mwy o fanylion: https://www.livinglevels.org.uk/events/2020/11/12/aerial-archaeology-and-the-gwent-levels
Bydd y ddarlith ddi-dâl hon yn cael ei chyflwyno ar Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi gadw’ch lle.
Dyddiad | 12th November |
Amser | 7pm–9pm |
Math | Darlith |