
Archaeoleg Arforol Cymru: O longau drylliedig i dirweddau sydd dan y dŵr
Ymunwch â ni am 5pm ar 28 Gorffennaf yn ein darlith ar-lein ar gyfer yr Ŵyl Archaeoleg gan Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol) yn y Comisiwn Brenhinol: “Archaeoleg Arforol Cymru: O longau drylliedig i dirweddau sydd dan y dŵr”. Mae gan Gymru gasgliad cyfoethog o safleoedd archaeolegol arforol sy’n amrywio o dirweddau cynhanesyddol sydd bellach dan y dŵr i longau drylliedig o’r 20fed ganrif – a phopeth rhyngddynt, bron iawn. Bydd yr anerchiad hwn yn cyflwyno gwaith y Comisiwn Brenhinol wrth iddo arolygu a chofnodi archaeoleg arforol Cymru, a bydd yn esbonio’r mathau o safleoedd yr ydym yn gweithio arnynt a’r dulliau yr ydym yn eu defnyddio.
COFRESTRWCH AM DOCYNNAUBydd y sgwrs hon yn cael ei thraddodi yn Saesneg.
Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly cofiwch gadw eich lle yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
28 Gorffennaf, 2022, 2pm
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Archebwch un tocyn yr un os gwelwch yn dda.
Dyddiad | 28th July |
Amser | 5pm |
Lleoliad | Digwyddiad Ar-lein |
Math | Sgwrs |
Gwestai Arbennig | Dr Julian Whitewright |