
Archwiliwch Eich Archif: Archif Cof
Mewn partneriaeth ag Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal digwyddiad am ddim sy’n edrych ar sut y gall archifau gael eu defnyddio’n ffynhonnell ar gyfer creu gweithgareddau, teithiau cerdded, storïau a gweithiau celf er mwyn helpu i ysgogi atgofion a’r cof i’r sawl sy’n byw gyda dementia.Caiff ei gynnal yn Siambr y Cyngor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar Ddydd Mercher, 22 Tachwedd 2017.
Anelir y digwyddiad at staff gofal iechyd proffesiynol, y rheiny sy’n gyfrifol am ddatblygu gweithgareddau ac adnoddau, ac unrhyw un sy’n gofalu am bobl gyda dementia neu’n gweithio gyda nhw.
I gofrestru ar gyfer tocynnau ar-lein:
http://digwyddiadau.cbhc.gov.uk/digital-past/archwiliwch-eich-archif-archif-cof
Dyddiad | 22nd November |
Amser | 9.15 - 16.30 |
Lleoliad | Siambr y Cyngor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth SY23 3BU |
Math | Archwiliwch Eich Archif |