Archwiliwch Eich Archifau 2018: Cymru Treftadaeth y Byd

Arddangos Deunydd Archifol yn y Comisiwn Brenhinol, 20 a 21 Tachwedd, 11am–4pm

I ddathlu Archwiliwch Eich Archifau 2018, bydd Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol, ar Dydd Mawrth 20 a Dydd Mercher 21 Tachwedd rhwng 11am a 4pm, yn cynnal arddangosfa o ddeunydd yn ymwneud â’r tri safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru – Cestyll a Muriau Tref Edward I yng Ngwynedd, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, a Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon.  Mae croeso i bawb ddod i’n gweld!

Byddwn hefyd yn arddangos deunydd am yr hyn, rydym yn gobeithio, fydd pedwerydd safle treftadaeth y byd Cymru, sef Tirwedd Lechi Gogledd-orllewin Cymru, y cyhoeddwyd yn ddiweddar mai hi yw dewis y DU ar gyfer Enwebiad Safle Treftadaeth y Byd yn 2019. Dywedir mai’r ardal hon – sy’n ymestyn drwy sir Gwynedd – a “roddodd do ar fyd y 19eg ganrif” wrth i lechi o’i chloddfeydd a’i chwareli gael eu hallforio i bedwar ban byd.

Dyddiad 21st November
Amser 11am–4pm
Lleoliad CBHC, Aberystwyth
Math Arddangosfa

Tweets