Archwilio Eich Archif

Archwiliwch Eich Archifau, Discovering Twentieth-century Heritage in Wales

27 Tachwedd, Archwiliwch Eich Archifau, Discovering Twentieth-century Heritage in Wales. Am 12pm, bydd Susan Fielding, Uwch Ymchwilydd yn y Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs ar ddarganfod treftadaeth yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yn Ystafell Addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe fydd dwy daith dywys i weld archifau’r Comisiwn Brenhinol, am 11am (Saesneg) a 2.30pm (Cymraeg), a bydd deunydd archifol ar bensaernïaeth yr ugeinfed ganrif yn cael ei arddangos yn ein Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil drwy gydol y dydd. Fe’ch cynghorir i gadw’ch lle. Cysylltwch â Penny Icke – penny.icke@cbhc.gov.uk ffôn: 01970 621200 – i gadw’ch lle neu i ofyn am fwy o wybodaeth. Mae’r digwyddiad hwn ar agor i bawb.

Dyddiad 27th November
Lleoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Math Archwiliwch Eich Archifau
Gwestai Arbennig Susan Fielding

Tweets