
Bydoedd Rhithwir: Archwiliwch ein Gorffennol Digidol
28 Chwefror, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, digwyddiad addysgol hanner-tymor i’r teulu cyfan, 10.00am – 4.00pm. Dewch i ddarganfod cestyll, abatai a chapeli drwy gyfrwng realiti rhithwir, teithiau 360 gradd ac amgylcheddau chwarae gemau. Digwyddiad rhyngweithiol galw-heibio yw hwn sy’n addas i deuluoedd ac i blant dros 3 oed. Dyma gyfle i weld a defnyddio adnoddau digidol arloesol a chyffrous y Comisiwn Brenhinol.
Digwyddiad dwyieithog fydd hwn.
Mynediad am ddim: Does dim angen tocyn.
Dyddiad | 28th February |
Amser | 10am -4pm |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Math | Digwyddiad addysgol i’r teulu cyfan |