
Byw ar ymyl y dibyn: Datgelu hanes caerau pentir erydol Sir Benfro
Ymunwch â ni ar gyfer yr ail sgwrs yng nghyfres newydd y Comisiwn Brenhinol o ddarlithiau ar-lein. Ar Ddydd Iau, 1 Ebrill, fe fydd Daniel Hunt, Ymchwilydd CHERISH, yn trafod, ‘Byw ar ymyl y dibyn: Datgelu hanes caerau pentir erydol Sir Benfro’.
Mae Sir Benfro yn gartref i rai o’r safleoedd arfordirol cynhanesyddol diweddar gorau yn Ynysoedd Prydain. Er eu bod yn gymharol niferus, ni wyddom fawr ddim amdanynt, yn enwedig sut y cawsant eu hadeiladu a’r rhan a chwaraewyd ganddynt yng nghymdeithas y cyfnod. Yn y sgwrs fer hon fe drafodir ymchwil archaeolegol diweddar, gan gynnwys nifer o arolygon newydd a wnaed fel rhan o’r Prosiect CHERISH, ac ystyrir syniadau newydd ynghylch sut y cafodd y caerau eu hadeiladu a dylanwadau posibl a allai esbonio pam y cawsant eu lleoli ar yr arfordir.
Caiff y ddarlith ddi-dâl hon ei darparu drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad i chi ar ôl i chi archebu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
Byddwch cystal â gofyn am un tocyn ar gyfer pob teulu.
Cofrestrwch am docynnau
Llun: Mae erydiad wedi cael effaith fawr ar gaer bentir Porth y Rhaw. Mae’r amddiffynfeydd cymhleth yn dangos bod yr adeiladwyr yn benderfynol o gau ac atgyfnerthu’r ddau bentir ysgythrog naturiol hyn. NPRN: 94210 https://coflein.gov.uk/cy/safle/94210/?term=94210
Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal cyflwyniadau rheolaidd a digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb ymuno â ni ar gyfer y digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn.
Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.
Dyddiad | 1st April |
Amser | 17:00 - 18:00 |
Lleoliad | Zoom |
Math | Sgwrs |
Gwestai Arbennig | Daniel Hunt |