Caergybi a’r Rhyfel Llongau Tanfor – 6 Mai

Mae HMHS Anglia yn awr yn cael ei diogelu dan y gyfraith fwy na 100 mlynedd ers iddi gael ei suddo gan ffrwydryn Almaenig. Mae bellach yn fedd rhyfel swyddogol i’r 167 o bobl ar ei bwrdd a fu farw, 23 ohonynt yn llongwyr o Gaergybi.

Fel rhan o brosiect y Comisiwn Brenhinol ‘Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru: 1914-18’ a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri byddwn yn gwneud arolygon o sawl llongddrylliad o’r Rhyfel Mawr yn nyfroedd Cymru er mwyn darparu tystiolaeth ar gyfer diogelu’r llongau hyn a chofnod gweledol i’r cyhoedd. Cynhelir digwyddiad yn Amgueddfa Arforol Caergybi ar Ddydd Sadwrn 6 Mai rhwng 11am a 4pm, a gofynnir i’r cyhoedd ddod â’u storïau, ffotograffau a gwrthrychau i’r amgueddfa fel y gallwn eu cofnodi. All fod yn rhywbeth perthnasol i’r mor gan gynwys lluniau o forwyr a llongau, llythyrau teuluol ac eitemau o’r cyfnod . Bythwn hefyd yn awyddus i glywed storiau a goroesoedd o’r cyfnod.

Rhai ffeithiau:

  • Mae gan Caergybi hanes hir o warchod llongwyr ar ol llongddrylliadau. Drwy’r Rhyfel Mawr cafodd miloedd  o bobl a achubwyd yn dilyn ymosodiadau llongau tanfor yr Almaen lloches yn y ‘Stanley Mission’ yng Nghaeregybi. Rhain oedd y criw a theithwyr llongau masnachol, nifer ohonynt wedi dioddef anafiadau ac effaithiau o oerni ar ol cyfnod yn y mor. Fe caethant triniaeth meddygol, dillad cynnes, bwyd a tocynnau i deithio adref.
  • Suddwyd tua 30 o longau addiar arfordir Môn gan y llongau tanfor yn ystod y Rhyfel Mawr.
  • Mae y rhyfel llongau tanfor yn elfen bwysig yn hanes morwrol Sir Fon.

Mae Prosiect y Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen angen eich help chi i adrodd storïau’r llongau a suddwyd ar hyd arfordir Cymru yn ystod y Rhyfel Mawr, a’r cymunedau a’r dynion a menywod a gymerodd ran yn y Rhyfel. Dewch â’ch lluniau, straeon a gwrthrychau i Amgueddfa Arforol Caergybi ar Ddydd Sadwrn 6 Mai rhwng 11am a 4pm, lle bydd gwirfoddolwyr a staff y prosiect wrth law i’w cofnodi a’u sganio. 


Dyddiad 6th May
Amser 11.00-16.00
Lleoliad Amgueddfa Arforol Caergybi
Math Digwyddiad Cyhoeddus

Tweets