
Capeli Anghydffurfiol Cymru: Pensaernïaeth Genedlaethol
Gellid dadlau mai capeli Anghydffurfiol yw’r adeiladau mwyaf eiconig yng Nghymru, ond maen nhw hefyd ymhlith y mathau o adeiladau sydd fwyaf mewn perygl o gael eu cau, o fynd â’u pen iddynt neu o gael eu dymchwel. O gapeli gwerinol cynnar diwedd yr 17eg ganrif ymlaen, fe fydd ein Huwch Ymchwilydd ar gyfer Adeiladau Hanesyddol, Susan Fielding, yn cloriannu pensaernïaeth y capeli a’i lle yn ein cymdeithas, ac yn trafod sut mae’r Comisiwn Brenhinol yn mynd ati i gofnodi a deall yr adeiladau pwysig hyn.
3 Mehefin, 2021, 5pm
Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.
Cofrestrwch am docynnau
Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn.
Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.
Dyddiad | 3rd June |
Amser | 5pm |
Lleoliad | Zoom |
Math | Sgwrs |
Gwestai Arbennig | Susan Fielding |