
Carto-Cymru – Symposiwm Mapiau Cymru 2017
12 Mai, Carto-Cymru. Symposiwm Mapiau Cymru 2017: Mesur y Meysydd, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 9.45am—4.30pm. Symposiwm undydd i asesu datblygiad gwaith mapio ystadau a’i werth o ran portreadu’r dirwedd hanesyddol. Digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, Prifysgol Bangor. Bydd y sgyrsiau ar y dydd yn cynnwys un ar hanes mapio ystadau gan Peter Barber, Cyn-Bennaeth Mapiau yn y Llyfrgell Brydeinig: Thou several artists dost employ to show the measure of thy lands”: estate maps and the image of the landowner 1570-1800 a Cantrefi a Chymydau: Rediscovering the Medieval Boundaries of Wales for the Digital Age gan John Dollery a Scott Lloyd o’r Comisiwn Brenhinol. Pris tocyn yw £20 sy’n cynnwys cinio a lluniaeth yn y bore a’r prynhawn. I gael tocynnau neu wybodaeth bellach, ffoniwch: 01970 632 548 neu ewch i: https://www.ticketsource.co.uk/event/EILMJF
Dyddiad | 12th May |
Amser | 9:45-16:30 |
Lleoliad | Aberystwyth, Ceredigion |
Gwestai Arbennig | John Dollery, Scott Lloyd |