
Carto Cymru – Symposiwm Mapiau Cymru 2021: Arolygu’r Strydoedd
12–14 Mai Carto Cymru – Symposiwm Mapiau Cymru 2021: Arolygu’r Strydoedd a gynhelir mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Trefi Hanesyddol. Bydd symposiwm ar-lein di-dâl eleni yn canolbwyntio ar sut mae trefi a dinasoedd wedi cael eu mapio ar hyd y canrifoedd a sut y gall hyn ein helpu i ddeall hanes a phrosesau twf trefol. Am 5pm ar 12 Mai fe fydd David Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyhoeddus y Comisiwn Brenhinol, yn siarad am: Trefweddau: Golwg Oddi Fry. O drefi Rhufeinig Caerfyrddin a Chaerdydd i drefi newydd fel Cwmbrân a godwyd ar ôl y rhyfel, mae anghenion masnach, amddiffyn, tai, cludiant a diwydiant wedi cystadlu â’i gilydd o fewn cyfyngiadau daearyddol i greu morffoleg unigryw ar gyfer pob anheddiad yng Nghymru. Trafodir y forffoleg hon yn y sgwrs, gan ddefnyddio casgliadau helaeth Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru o awyrluniau a mapiau, a manteisio ar astudiaethau achos sy’n dangos y gwahanol rymoedd daearyddol a hanesyddol sydd wedi peri newid ar hyd a lled y wlad.
Dros gyfnod o dri diwrnod rhwng 12 a 14 Mai fe gyflwynir papurau ar, er enghraifft, Mapping our Townscapes: the British Historic Towns Atlases – Past, Present & Future gan yr Athro Keith Lilley, Prifysgol Queen’s Belfast (1pm, 12 Mai); Mapping the Scottish Burgh: a Cautionary Tale gan John Moore, Llyfrgell Prifysgol Glasgow (1pm, 13 Mai); Surveying the Streets: Early Plans of Welsh Towns before 1800 gan Huw Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (5pm, 13 Mai); From Speed to the OS: Surveying the Streets through the Irish Historic Towns Atlas gan Sarah Gearty, Academi Frenhinol Iwerddon, Dulyn (1pm, 14 Mai); a Literary Topographies of the Medieval British Town gan yr Athro Helen Fulton, Prifysgol Bryste (5pm, 14 Mai). Fe gynhelir sawl gweithdy hefyd ar 13 Mai am 10.30am, gan gynnwys Mapping Mold: a Methodology for the Digitisation and Polygonization of Ordnance Survey Town Plans c.1870 gan Jon Dollery, Swyddog Mapio’r Comisiwn Brenhinol. I gael mwy o fanylion ac i archebu’ch lle, ewch i: https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/t-odqyol
Dyddiad | 12th May |
Lleoliad | Zoom |
Math | Symposiwm |