Casglu Enwau Lleoedd Cymru

31 Ionawr, Cymdeithas Hanes Dinas Mawddwy, 7.30pm. Sgwrs gan Dr James January-McCann, Casglu Enwau Lleoedd Cymru. Yn y sgwrs hon bydd Dr James January-McCann yn trafod y cefndir i greu Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru, y ffynonellau a ddefnyddiwyd i’w llunio, a’r gwahanol ffyrdd y gall y sawl sydd â diddordeb mewn enwau lleoedd ddefnyddio’r wefan. Canolbwyntir yn arbennig ar enwau lleoedd Dinas Mawddwy. Cynhelir y sgwrs yn Y Llew Coch, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys SY20 9JA. Cynhelir y digwyddiad hwn yn y Gymraeg a darperir cyfieithu ar y pryd. Mae’r sgwrs ar agor i bawb.

Dyddiad 31st January
Amser 19:30 - 20:30
Lleoliad Machynlleth
Math Darlith
Gwestai Arbennig Dr James January-McCann

Tweets