
Coffáu Profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y Môr
3-4 Tachwedd, Cynhadledd Prosiect Llongau 1914–18: Coffáu Profiad Cymru o’r Rhyfel Mawr ar y Môr. Yn y gynhadledd ddeuddydd hon a gynhelir yn Noc Penfro edrychir ar brofiad y llongwyr a chymunedau arfordirol Cymreig a fu ynghlwm wrth weithgareddau’r Llynges Frenhinol, y llynges fasnachol a’r diwydiant pysgota yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Nodau’r gynhadledd fydd rhoi sylw i’r ymchwil a’r prosiectau yr ymgymerwyd â nhw yn ystod cyfnod y coffáu, ac ysgogi ymchwil a phrosiectau treftadaeth cymunedol yn y dyfodol i gofnodi ymhellach effeithiau’r gyflafan. Yn ogystal â rhaglen lawn o siaradwyr fe fydd arddangosiadau ymarferol, hyfforddiant i ymchwilwyr ar sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein, a thaith dywys drwy’r amgueddfa môr yn Hancock’s Yard. Cynhelir y gynhadledd ar y cyd ag arddangosfa lawn y Prosiect Llongau-U, sy’n rhoi sylw manwl i longddrylliadau’r Rhyfel Mawr ac yn adrodd y storïau cymunedol a gofnodwyd ar hyd a lled Cymru. I gael mwy o fanylion cysylltwch â Helen Rowe neu Rita Singer: LlongauU@rcahmw.gov.uk, ffôn: 01970 621200, ac i drefnu’ch lle ewch i: https://ti.to/digital-past/Yn-Coffaur-Rhyfel-ar-y-mor-2018
Dyddiad | 3rd November |
Amser | 09:00 - 16:00 |
Lleoliad | Pembroke Dock |
Math | Cynhadledd |