
Cyfarfod Busnes Agored y Comisiynwr
Bydd y Comisiynwyr, a benodwyd gan y Goron i oruchwylio gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn cynnal eu Cyfarfod Llawn hanner blynyddol ar Ddydd Mercher 28 Ebrill 2021 rhwng 11.30 a 13.00. Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams.
Mae’r Cyfarfod Llawn agored yn rhan bwysig o ymrwymiad y Comisiwn Brenhinol i atebolrwydd cyhoeddus a thryloywder. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ddod i’r cyfarfod a gweld y Comisiwn ar waith.
Nid yw’n costio dim i fynychu’r cyfarfod ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a’r cyntaf i’r felin gaiff falu.
Cysylltwch â Reina van der Wiel, Rheolwr Llywodraethu a Risg i gadw lle neu i ofyn am fwy o wybodaeth.
Ebost: reina.vanderwiel@cbhc.gov.uk
Ffôn: 01970 621 240
Dyddiad | 28th April |
Amser | 11:30 - 13:00 |
Lleoliad | Microsoft Teams |
Math | Cyfarfod |