
Cyfarfod Busnes Agored y Comisiynwyr
Bydd y Comisiynwyr, a benodwyd gan y Goron i oruchwylio gwaith Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn cynnal eu Cyfarfod Busnes hanner blynyddol ar Ddydd Iau 19 Hydref 2017 rhwng 4.45pm a 6.15pm. Bydd y cyfarfod, a gadeirir gan Dr Eurwyn Wiliam, yn cael ei gynnal yn swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU.
Mae’r Cyfarfod Busnes agored yn rhan bwysig o ymrwymiad y Comisiwn Brenhinol i atebolrwydd cyhoeddus a thryloywder. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ddod i’r cyfarfod a gweld y Comisiwn ar waith. Ar ôl y cyfarfod fe fydd cyfle i siarad yn anffurfiol â’r Comisiynwyr a’r staff.
Nid yw’n costio dim i fynychu’r cyfarfod ond mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a’r cyntaf i’r felin gaiff falu.
Cysylltwch â Nicola Roberts –
nicola.roberts@cbhc.gov.uk ; ffôn: 01970 621248 – i gadw lle neu i ofyn am fwy o wybodaeth
Rhannu’r digwyddiad hwn: Commissioners’ Open Business Meeting
Dyddiad | 19th October |
Amser | 16:45- 18:15 |
Lleoliad | Aberystwyth |
Math | Cyfarfod Busnes Agored |