
Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr/Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History
Cyflwyniad gan Dr Mark Redknap a chyfranwyr eraill i gyd-gyhoeddiad diweddaraf y Comisiwn Brenhinol, Cymru a’r Môr. Bydd mwy na 400 o ddelweddau cydraniad-uchel yn y llyfr newydd hwn, y rhan fwyaf ohonynt o gasgliadau enfawr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Bydd lluniau’n cael eu dangos yn ystod y sgwrs a fydd yn cyflwyno hanes morwrol cyffrous ond gweddol anhysbys Cymru yn y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig, canoloesol a mwy diweddar. Cynhelir y sgwrs yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn.
Dyddiad | 19th June |
Amser | 1pm |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Math | Sgwrs amser cinio |