
Cymru Rewllyd Oddi Fry: Archaeoleg ac Archwilio o’r Awyr yn y Gaeaf yng Nghymru
Ymunwch â ni i fwynhau sgwrs gyntaf y Comisiwn Brenhinol yn ei gyfres newydd o ddarlithiau ar-lein. Ar Ddydd Iau, 4 Mawrth, bydd Dr Toby Driver yn trafod ‘Cymru Rewllyd Oddi Fry: Archaeoleg ac Archwilio o’r Awyr yn y Gaeaf yng Nghymru’.
Gall eira droi Cymru’n wlad llawn hud a lledrith. Gall yr olygfa oddi uchod fod yn fwy rhyfeddol byth. Gall amodau gaeafol roi hwb mawr i waith archaeolegol o’r awyr wrth i luwchfeydd eira, rhew sy’n dadmer a golau isel y gaeaf gyfuno i ddatgelu’n hynod o eglur wrthgloddiau hynafol, cestyll, a thirweddau ucheldirol. Bydd y sgwrs hon yn mynd â’r gynulleidfa yn uchel i’r awyr uwchben Cymru ar ddyddiau rhewllyd y gaeaf, yng nghwmni archaeolegydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, i weld rhai o’r darganfyddiadau dramatig a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Caiff y ddarlith ddi-dâl hon ei darparu drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad i chi ar ôl i chi archebu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes.
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw wrth fynd yma:
Cofrestrwch am docynnau
Llun: Castell Caerffili, NPRN 94497
Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal cyflwyniadau rheolaidd a digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol.
Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn.
Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.
Y sgwrs nesaf fydd – ‘Byw ar ymyl y dibyn: Datgelu hanes caerau pentir erydol Sir Benfro’ gan Daniel Hunt, Ymchwilydd y Prosiect CHERISH, Dydd Iau 1 Ebrill, am 5 pm.
Dyddiad | 4th March |
Amser | 17:00 - 18:00 |
Lleoliad | Zoom |
Math | Sgwrs |
Gwestai Arbennig | Dr Toby Driver |