Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol – A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd

5 Rhagfyr, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5pm. Teitl darlith eleni yw A Story of Sand, Sea and Storms: Uncovering the Secrets of Dinas Dinlle Hillfort in Gwynedd a chaiff ei rhoi gan Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear). Fel rhan o’r prosiect CHERISH – Newid Hinsawdd a Threftadaeth Arfordirol – mae ymchwiliadau cyffrous newydd yn cael eu gwneud i ddatgelu cyfrinachau bryngaer Dinas Dinlle cyn iddi gael ei cholli i’r môr. Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar uchafbwyntiau’r gwaith diweddar ar y safle, gan gynnwys cloddiadau 2019 a ddadorchuddiodd un o’r tai crwn mwyaf ei faint a mwyaf cyflawn yng Ngogledd Cymru. Mynediad am ddim drwy docyn.

I gofrestru ar gyfer tocynnau ar-lein, ewch i: https://ti.to/digital-past/nadolig-y-comisiwn-brenhinol-a-story-of-sand-sea-and-storms-uncovering-the-secrets-of-dinas-dinlle-hillfort-in-gwynedd.

Unwaith eto fe gynhelir Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol yr un pryd â digwyddiad siopa Nadolig hwyr y Llyfrgell Genedlaethol: Noswaith Siopa Hwyr, 5pm─8pm, lle bydd adloniant a lluniaeth tymhorol ar gael a stondinau lle gallwch brynu detholiad o nwyddau o safon.

 

Byddwch cystal â nodi y rhoddir y ddarlith hon am 6pm ar 16 Ionawr 2020 ym Mangor hefyd.

Dyddiad 5th December
Amser 5pm
Lleoliad Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Math Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol
Gwestai Arbennig Louise Barker a Daniel Hunt (CHERISH, CBHC) gyda Sarah Davies a Patrick Robson (CHERISH, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear)

Tweets