Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol, Haf o Ddarganfyddiadau yng Nghymru: Archaeoleg o’r Awyr a Gwres Mawr 2018

6 Rhagfyr, Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol, Haf o Ddarganfyddiadau yng Nghymru: Archaeoleg o’r Awyr a Gwres Mawr 2018 gan Dr Toby Driver am 5.30 pm, Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ymunwch â Toby Driver ar daith syfrdanol i weld caeau cras Cymru o’r awyr yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2018, pan ymddangosodd ugeiniau o safleoedd archaeolegol newydd eu darganfod fel olion cnydau ac olion crasu. Bydd Toby yn edrych ar ddarganfyddiadau pwysig o bob rhan o Gymru ac yn trafod eu harwyddocâd, gan gynnwys nifer o safleoedd nad ydynt wedi cael eu gweld gan y cyhoedd o’r blaen. Edrychir hefyd ar y diddordeb mawr a ddangosodd y cyfryngau yn sgil y darganfyddiadau, pan ymddangosodd olion cnydau Cymreig ochr yn ochr â digwyddiadau rhyngwladol ar wefan y New York Post.Mynediad am ddim drwy docyn. I gofrestru ar gyfer tocynnau ar-lein, ewch i: https://ti.to/digital-past/haf-o-ddarganfyddiadau-yng-nghymru-archaeoleg-o-r-awyr-a-gwres-mawr-2018. Eleni eto, bydd Darlith Nadolig y Comisiwn Brenhinol yn cael ei thraddodi ar noson digwyddiad siopa Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol: Noswaith Siopa Hwyr, 4.30pm ─ 7.30pm a fydd yn cynnwys adloniant, lluniaeth tymhorol, a stondinau sy’n gwerthu detholiad o nwyddau o safon.

Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn wedi gwerthu allan. Mae sgwrs arall gan Dr Toby Driver ar yr un pwnc yn cael ei threfnu. Bydd y manylion ar gael cyn bo hir.

Dyddiad 6th December
Amser 5.30 pm
Lleoliad Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Math Darlith Nadolig
Gwestai Arbennig Dr Toby Driver

Tweets