Dathlu Ystrad Fflur

Gŵyl Archaeoleg: 15/16 Gorffennaf, Dathlu Ystrad Fflur, 10am – 4.30pm yn Abaty Ystrad Fflur, Pontrhydfendigaid, Ceredigion, SY25 6ES. Dau ddiwrnod o ddigwyddiadau i bawb, gan gynnwys arddangosfeydd, arddangosiadau, sgyrsiau, teithiau tywys ac archaeoleg. Rhai o’r siaradwyr fydd Richard Suggett ar The Welsh Farmhouse, Dafydd Johnson ar Ystrad Fflur ym marddoniaeth Cymru, a Gerald Morgan ar y teulu Stedman.  Ar ddydd Sul, 16 Gorffennaf, fe ddethlir 1,000 o flynyddoedd o addoli yn Ystrad Fflur: arddangosir Cwpan Nanteos, cynhelir gwasanaethau crefyddol a darllenir barddoniaeth. I gael mwy o wybodaeth, ewch i http://www.strataflorida.org.uk/cy/index.php

Rhannu’r digwyddiad hwn: Dathlu Ystrad Fflur

Dyddiad 15th July
Amser 10am – 4.30pm
Lleoliad Abaty Ystrad Fflur, Pontrhydfendigaid, Ceredigion, SY25 6ES
Math Dau ddiwrnod o ddigwyddiadau
Gwestai Arbennig Richard Suggett

Tweets