Deifio’n Ôl i Longddrylliad y Bronze Bell

gan Alison James, MSDS Marine, ar ran y Prosiect CHERISH

Ymunwch â ni i glywed y sgwrs hon gan ein partneriaid o’r Prosiect CHERISH am 5pm ar Ddydd Iau, 17 Chwefror 2022.

Yn 2021 fe gafodd MSDS Marine ei gomisiynu gan y Prosiect CHERISH i ymgymryd â chyfres o ddeifiau ar safle llongddrylliad y Bronze Bell. Y tro diwethaf i’r safle gael ei archwilio gan gontractwr archaeolegol oedd yn 2004. Fe gafodd effaith newid hinsawdd ar y llong ei hasesu am y tro cyntaf yn ystod y rhaglen ddeifio ddiweddaraf.

Daethpwyd o hyd i’r Bronze Bell oddi ar arfordir Meirionnydd ym 1978. Nid yw enw’r llong yn hysbys ond fe gafodd ei hail-enwi ar ôl y gloch efydd, sydd â’r dyddiad 1677 arni, a ddarganfuwyd ar y llongddrylliad.

Prosiect Iwerddon-Cymru 6 blynedd o hyd a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Mae’n dwyn ynghyd bedwar partner o’r ddwy wlad: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2017 a bydd yn dod i ben ym mis Mehefin 2023. Bydd yn derbyn €4.9 miliwn drwy Raglen Iwerddon-Cymru 2014-2020.

17 Chwefror, 2022, 5pm

Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.

Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.

Cofrestrwch am Docynnau

 

Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.

Dyddiad 18th February
Amser 5pm
Lleoliad Zoom
Math Sgwrs
Gwestai Arbennig Alison James

Tweets