
Diwrnod Archaeoleg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
18 Tachwedd, Diwrnod Archaeoleg Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, 9.30am – 4pm. Bydd nifer o arddangosfeydd a siaradwyr gwadd, gan gynnwys Dan Hunt, Archaeolegydd Cymunedol y Comisiwn Brenhinol ar gyfer y prosiect CHERISH, a fydd yn rhoi sgwrs ar Climate Change and Coastal Heritage. Siaradwyr eraill fydd yr Athro Mike Parker Pearson (Sefydliad Archaeoleg UCL) a fydd yn trafod The Origins of Stonehenge in Wales a Ken Murphy (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed) a fydd yn rhoi sgwrs ar Excavations at St Patrick’s Chapel early medieval cemetery: recent work. Cynhelir y digwyddiad yn Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro, Hwlffordd, SA61 1SZ. Pris tocyn: £18. I gael mwy o fanylion a bwcio, cysylltwch ag Oriel y Parc, ffôn: 01437 720392; neu e-bost: info@orielparc.co.uk.
Dyddiad | 18th November |
Amser | 9.30am–4pm |
Lleoliad | Theatr Myrddin, Coleg Sir Benfro, Hwlffordd |
Math | Ysgol Undydd |