
Diwrnod Treftadaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Dod â’n Treftadaeth yn Fyw
15 Hydref, Diwrnod Treftadaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Theatr Brycheiniog, Glanfa’r Gamlas, Aberhonddu, Powys, LD3 7EW. Thema’r diwrnod fydd Dod â’n Treftadaeth yn Fyw a bydd yn dathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol yn 60 oed. Am 10.35 y bore, bydd Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-lein y Comisiwn Brenhinol, yn ymuno â Suzanna Jones o APC Bannau Brycheiniog i roi sgwrs am dechnolegau digidol a threftadaeth. Bydd nifer o sgyrsiau eraill ar brosiectau treftadaeth allweddol, gan gynnwys Gwaith Powdr Gwn Glyn-nedd, Amgueddfa Brycheiniog a Chastell y Gelli. Digwyddiad di-dâl drwy docyn yn unig yw hwn. I gael gwybodaeth bellach, ewch i: www.theatrbrycheiniog.co.uk
Rhannu’r digwyddiad hwn: Brecon Beacons National Park Authority Heritage Day: Bringing our Heritage to Life
Dyddiad | 15th October |
Amser | Trwy'r dydd |
Lleoliad | Theatr Brycheiniog, Glanfa’r Gamlas, Aberhonddu, Powys, LD3 7EW |
Math | Diwrnod Treftadaeth |