
Efydd, Gwydr ac Aur: Trysorau Cynhanesyddol a Rhufeinig o Geredigion
Y COMISIWN BRENHINOL AC AMGUEDDFA CEREDIGION – Gŵyl Archaeoleg 2020
Darlith ar-lein am ddim
Ar Ddydd Mercher 15 Gorffennaf am 2pm fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn dangos darlith Gŵyl Archaeoleg arbennig gan Dr Toby Driver, a recordiwyd ymlaen llaw, ar dudalen Facebook y Comisiwn. Cynhelir y ddarlith mewn partneriaeth ag Amgueddfa Ceredigion.
Bydd y sgwrs yn rhoi sylw i ddarganfyddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig prin ac arbennig o sir Ceredigion yng Nghymru, y mae nifer ohonynt o bwys cenedlaethol i Gymru ac i’r DU gyfan. O’r ‘disg haul’ aur cynhanesyddol bach a ddarganfuwyd yng Nghwmystwyth i darian Rhos Rydd o’r Oes Efydd Ddiweddar o Flaenplwyf, llwyau Penbryn o’r Oes Haearn o Gastell Nadolig a ddefnyddid i broffwydo’r dyfodol, a’r bowlen wydr-nadd Rufeinig unigryw o fila Rufeinig Abermagwr, fe fydd y sgwrs yn trafod y rhan a chwaraewyd gan lwc a siawns yn y darganfyddiadau archaeolegol. Gellir gweld llawer o’r gwrthrychau a grybwyllir yn y sgwrs yn Oriel Bowen, Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.
Mae croeso i chi anfon eich cwestiynau a sylwadau ar y ddarlith, a byddwn yn gwneud ein gorau i’w hateb. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Dyddiad | 15th July |
Amser | 2yp - 3yp |
Lleoliad | Tudalen Facebook CBHC |
Math | Darlith ar-lein am ddim |
Gwestai Arbennig | Dr Toby Driver FSA |