
Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
5–12 Awst Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni fe fydd y Comisiwn Brenhinol yn Y Lle Hanes eto, ochr yn ochr â sefydliadau treftadaeth eraill, gan gynnwys Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amguedda Cymru, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a Chasgliad y Werin Cymru. Bydd y stondin yn cynnwys arddangosfeydd ar Lyn Cerrig Bach, Bedd Branwyn, Llys Rhosyr a Hwfa Môn, yr archdderwydd a bardd. Ar 10 Awst, bydd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd y Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs ar Darganfod Cartrefi Môn: 80 Mlynedd o Ymchwil gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ym Mhabell y Cymdeithasau 1 am 3pm.
Rhannu’r digwyddiad hwn: Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn
Dyddiad | 5th August |
Lleoliad | Bodedern, Ynys Môn |
Math | National Eisteddfod |