Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

12 Mai, Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 10am—4pm. Trefnir y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Hanes Teuluoedd Undebol Cymru a Chymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion a bydd amrywiaeth eang o stondinau – cymdeithasau hanes teulu a lleol, milwrol, mapiau, llyfrau, hen gardiau post, yn ogystal â stondin y Comisiwn Brenhinol. Dewch i ddarganfod mwy am ble y bu ein hynafiaid yn byw, yn gweithio ac yn addoli yng Nghymru.

Dyddiad 12th May
Amser 10:00 - 16:00
Lleoliad Aberystwyth, Ceredigion

Tweets