
Gorffennol Digidol: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
12 – 13 o Chwefror 2020
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Cynhadledd ddau ddiwrnod sy’n canolbwyntio ar dechnolegau digidol arloesol ar gyfer casglu, dehongli a lledaenu gwybodaeth am safleoedd ac arteffactau treftadaeth yw Gorffennol Digidol.
Bellach yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg, cynhelir cynhadledd Gorffennol Digidol 2020 yn y Ganolfan Gelfyddydau arobryn yn Aberystwyth. Hon yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru ac oddi yma fe welwch olygfeydd godidog dros y dref farchnad a chyrchfan gwyliau hanesyddol – sydd hefyd yn dref brifysgol fywiog – a Bae Ceredigion. Mae Aberystwyth, ‘Biarritz Cymru’, hanner ffordd ar hyd arfordir prydferth gorllewin Cymru mewn lleoliad cyfleus ar Reilffordd y Cambria.
Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfuniad o bapurau a gweithdai ac arddangosiadau ymarferol a fydd yn edrych ar y technegau arolygu technegol a dehongli diweddaraf a’u cymwysiadau ym meysydd dehongli, addysgu a diogelu treftadaeth.
Galwad am gyfraniadau
Rydym yn ceisio cyflwyniadau gan y rheiny sy’n gweithio ar brosiectau arloesol yn y meysydd a amlinellir isod, naill ai fel ymchwilwyr neu staff, a all gyfrannu i’r gynhadledd flaengar hon. Gellir cyfrannu ar ffurf cyflwyniadau, seminarau neu weithdai ffurfiol, neu’n fwy anffurfiol drwy’r sesiwn ‘anghynhadledd’ neu stondin arddangos. Rydym ni’n croesawu cyfraniadau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog Manylir isod ar y gwahanol ddulliau.
Themâu a thopigau
Dau brif linyn y gynhadledd fydd Technolegau Digidol a Threftadaeth Ddigidol, a gallant gynnwys topigau fel arolygu digidol (Sganio Daearol, Geoffiseg, LiDAR, Ffotogrametreg, awyrennau di-beilot, ac ati), prosesu, trin a dadansoddi data (gan gynnwys GIS a BIM), storio ac archifo data, modelu ac ail-greu 3D, delweddu ac animeiddio, Realiti Estynedig, Realiti Rhithwir, chwarae gemau, amgylcheddau ymgollol, argraffu 3D, e-gyhoeddi, cymorth torfol, cymunedau, addysg, ymgysylltu, dehongli a thwristiaeth.
Felly dyma themâu posibl, er nad yw’n rhestr gyflawn:
- Moeseg treftadaeth ddigidol, gan gynnwys gogwyddion wrth ddigido yn ogystal â’r dewis o bwnc a llwyfan ar gyfer dehongli ac ailgreu;
- Effaith technolegau digidol ar les cenedlaethau heddiw ac yfory (e.e. ffyniant, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd, cydraddoldeb, cymuned, diwylliant;
- Gwaddol prosiectau digidol, yn enwedig ar ôl i’r cymorth ariannol ddod i ben (e.e. archifo, gwefan, data);
- Effeithiau mynediad agored vs. waliau talu i awduron a darllenwyr ar hygyrchedd a chyrhaeddiad ymchwil;
- Goblygiadau gofynion digidol/arloesol cyrff cyllido;
- Goblygiadau llymder ar gyfer arloesi a datblygu technolegol;
- Goblygiadau dwyieithrwydd ar gyfer llwyfannau digidol.
Papurau
Papurau 20 munud wedi’u cyflwyno yn y dull confensiynol, sef fformat cyflwyniad a PowerPoint. Bydd 4 papur o’r fath ym mhob sesiwn a chyfnod holi a thrafod o 10 munud ar ddiwedd pob sesiwn. Oherwydd yr amserlen dynn iawn, mynnir bod y siaradwyr yn cadw at yr amser a neilltuir iddynt.
Gweithdai
Cynhelir y gweithdai ar fore’r 13eg o Chwefror. Dylent gynnig arddangosiadau ymarferol neu hyfforddiant ar agwedd benodol ar dechnoleg ddigidol sydd â chymwysiadau treftadaeth. Gall gweithdai fod yn un sesiwn o 90 munud neu’n ddwy sesiwn o 40 munud.
Sesiwn ‘Anghynhadledd’
Cyfres o sesiynau 15 munud y gall unrhyw un sy’n mynychu’r gynhadledd eu bwcio. Gellir bwcio sesiwn o 9.30am ymlaen ar ddiwrnod cyntaf y gynhadledd yn unig, a’r cyntaf i’r felin gaiff falu. Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i gynadleddwyr wneud cyflwyniad ar unrhyw brosiect, ymchwil neu fater yn ymwneud â defnyddio technoleg ddigidol ym maes treftadaeth. Gall cyflwyniadau fod wedi’u paratoi ymlaen llaw gan ddefnyddio PowerPoint, neu gallant fod yn ymateb i drafodaethau neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad.
Stondinau
Bydd nifer cyfyngedig o stondinau Arddangos ar gael i’w llogi am y ddau ddiwrnod. Bydd stondinau mawr ar gael am £215 neu stondinau Poster am £165 ac mae’r prisiau hyn yn cynnwys cost un cofrestriad cynhadledd (nid oes angen talu TAW). Gellir eu bwcio ar ôl i’r gynhadledd gael ei hagor ar gyfer cofrestriadau.
Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyniadau
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau, seminarau a gweithdai yw Dydd Gwener y 26ain o Orffennaf 2019. Caiff penderfyniadau eu gwneud ar ôl ystyried rhinweddau’r cyflwyniadau unigol a sut maent yn cyd-fynd â’r rhaglen gyffredinol, a hysbysir yr ymgeiswyr erbyn Dydd Gwener y 6ed o Fedi 2019.
Bydd y rheiny sy’n cyflwyno papur, seminar neu weithdy yn gallu cofrestru am ddim. Byddwch cystal â sylwi: er ein bod ni’n barod i dderbyn cyflwyniadau sy’n cynnwys mwy nag un siaradwr, ni allwn gynnig ond un cofrestriad am ddim ar gyfer pob cyflwyniad. Ni allwn, yn anffodus, gynnig treuliau pellach.
Rydym ni’n croesawu cyfraniadau Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog.
Yn achos ymgeiswyr tramor, gellir ystyried y posibilrwydd o gyflwyno papurau drwy we-ffrydio byw.
I gael mwy o wybodaeth, neu atebion i unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Susan Fielding yn gorffennoldigidol@cbhc.gov.uk neu ar 01970 621 219.
Dyddiad | 13th February |
Lleoliad | Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth |
Math | Gorffennol Digidol |