Padarn Sant 1500

20 Mai, Padarn Sant 1500,  10.30am—4.30pm.  Ysgol undydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas Hanes Ceredigion sy’n dathlu dyfodiad Padarn Sant i Brydain 1500 o flynyddoedd yn ôl ac sy’n cael ei chynnal ar y cyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chyfeillion Padarn Sant. Rhai o’r siaradwyr fydd Dr Toby Driver, uwch ymchwilydd archaeolegol y Comisiwn Brenhinol, Ken Murphy (YAD), Gerald Morgan (un o Gyfeillion y Comisiwn Brenhinol), a’r Athro Janet Burton (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Ar y dydd fe ddatgelir canlyniadau trawiadol yr arolwg geoffisegol o Gogerddan a gomisiynwyd gan y Comisiwn Brenhinol, Cymdeithas Hanes Ceredigion a Chyfeillion Padarn Sant. Mae’r digwyddiad am ddim i aelodau a bydd yn costio £10 os nad ydych yn aelod. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Lona Mason: 07507 652092 neu lom@llgc.org.uk . Cynhelir sesiwn y bore yn Neuadd yr Eglwys, Llanbadarn Fawr a sesiwn y prynhawn yng Ngogerddan lle byddwn yn ymweld â’r safle defodol, yn rhychwantu sawl cyfnod, sy’n gysylltiedig â Sant Padarn. Teithiwn yno mewn ceir preifat. Dylech wisgo esgidiau cryfion a dillad tywydd gwlyb. Dylech ddod â’ch cinio eich hun.

 

 

Dyddiad 20th May
Amser 10:30 - 16:30
Gwestai Arbennig Dr Toby Driver, Ken Murphy, Gerald Morgan, Professor Janet Burton

Tweets