
Pedair blynedd o’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol
Bydd ein Swyddog Enwau Lleoedd, Dr James January-McCann yn edrych yn ôl ar bedair blynedd gyntaf y Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, gan drafod y gwaith o’i chreu, a’r effaith y mae hi wedi’i chael ar yr ymgyrch i ddiogelu enwau lleoedd Cymru. Bydd ef yn sôn am y ffynhonnellau y cafwyd yr enwau ynddynt, a’r ffordd y mae’r Rhestr yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a chyrff eraill i atal colli ein henwau hanesyddol Cymraeg a Chymreig.
6 Mai, 2021, 5pm
Traddodir y ddarlith am ddim drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad atoch ar ôl i chi drefnu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Gofynnwch am un tocyn ar gyfer pob teulu.
Cofrestrwch am docynnau
Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn.
Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.
Dyddiad | 6th May |
Amser | 5pm |
Lleoliad | Zoom |
Math | Sgwrs |
Gwestai Arbennig | Dr James January-McCann |