
Pum mlynedd o’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol
Ar ddydd Llun 1 Awst am 4pm, bydd ein harbenigwr ar enwau lleoedd hanesyddol, Dr James January-McCann, yn rhoi sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Tregaron.
Bydd Dr James January-McCann yn edrych yn ôl dros bum mlynedd cyntaf y Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol ac yn trafod y gwaith parhaus y’i wneir i’w chynnal. Trafodith i ba raddau y mae’r Rhestr wedi cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod ein treftadaeth enwau lleoedd yn cael ei diogelu, ei hamlygu a’i defnyddio yng Nghymru heddiw. Bydd hefyd yn sôn am y datblygiadau sydd ar y gweill ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a’r gobaith o gyrraedd y nod o gasglu miliwn o enwau lleoedd hanesyddol.
Bydd y sgwrs hon yn Gymraeg.
Dyddiad | 1st August |
Amser | 16:00 - 17:00 |
Lleoliad | Eisteddfod |
Math | Darlith |
Gwestai Arbennig | Dr James January-McCann |