
Witches in Wales:Gŵyl Hanes y Pedair Gwlad, Prifysgol Bangor
Gŵyl Hanes y Pedair Gwlad: Archwilio Hanesion Arbennig Cymru, Iwerddon, yr Alban a Lloegr, yn Pontio, Prifysgol Bangor. Digwyddiad cymunedol wedi’i arwain gan Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol yw’r ŵyl hon. Bydd y Comisiwn Brenhinol, amgueddfa Storiel, Eglwys Gadeiriol hanesyddol Bangor, ac amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth a thwristiaeth yn cymryd rhan. Mae’r siaradwyr gwadd yn cynnwys yr haneswyr David Starkey, Lucy Worsley a David Olusoga. Am 5pm ar Ddydd Gwener 25 Hydref, bydd Richard Suggett, hanesydd y Comisiwn Brenhinol, yn rhoi sgwrs ar Witches in Wales yn Theatr Bryn Terfel. I gael mwy o fanylion ac i gofrestru, ewch i:
http://fournations.bangor.ac.uk/index.php.cy
Sylwch fod y tocynnau ar gyfer darlithiau David Olusoga, David Starkey a Lucy Worsley ar gael ar wahân yn pontio.co.uk
Dyddiad | 25th October |
Lleoliad | Pontio, Prifysgol Bangor |
Math | Archwilio Hanesion |
Gwestai Arbennig | Richard Suggett, David Starkey, Lucy Worsley a David Olusoga |