CBHC / RCAHMW https://cbhc.gov.uk On the Ancient and Historical Monuments of Wales Fri, 10 Aug 2018 13:52:57 +0000 cy hourly 1 https://wordpress.org/?v=4.9.8 Bae Caerdydd: Amgylchedd sy’n Newid yn Barhaus, Rhan II https://cbhc.gov.uk/bae-caerdydd-amgylchedd-syn-newid-yn-barhaus-rhan-ii/ https://cbhc.gov.uk/bae-caerdydd-amgylchedd-syn-newid-yn-barhaus-rhan-ii/#respond Fri, 10 Aug 2018 10:39:34 +0000 https://rcahmw.gov.uk/?p=11646  

Mewn postiad blog yn gynharach yr wythnos hon, buom yn trafod sut mae hanes y Bae yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cael ei ddatgelu gan y newidiadau parhaus yn adeiladau Butetown. Parhaodd y datblygu hwn i mewn i’r ugeinfed ganrif, wrth i ddirywiad y diwydiant glo ysgogi trawsnewid pellach.

 

Yn y 1980au, trawsnewidiwyd y warws hwn yn swyddfeydd ac enillwyd gwobr am yr addasiad

 

Mae llawer o’r amgylchedd diwydiannol wedi diflannu – mae Camlas Morgannwg yn barc, llenwyd Doc Gorllewinol Bute ym 1964, ac mae basn y doc bellach yn heol, sef Plas Roald Dahl – ond mae rhai adeiladweithiau wedi goroesi a rhoddwyd pwrpas newydd iddynt. Glanfa Iwerydd yw Doc Dwyreiniol Bute bellach, addasiad arobryn a oedd yn cynnwys trawsnewid y warws ym mhen y doc yn swyddfeydd. Mae Ffatri Spillers and Baker wedi’i throi’n fflatiau ac mae warws y London and North Western Railway yn westy. Mae Cory’s Building ar Bute Street a’r adeilad cyfagos ar Bute Place yn cael eu troi’n fflatiau moethus, tra bo’r Gyfnewidfa Lo yn westy.

 

Yr Eglwys Norwyaidd yn ei safle presennol yn 2008

 

Mae rhai adeiladau wedi cael eu symud. Cafodd yr Eglwys Norwyaidd, a oedd yn wreiddiol ar gornel dde-ddwyreiniol Doc Gorllewinol Bute, ei hailgodi ar ei safle presennol ym 1982. Cafodd y Swyddfa Dollau ei symud yn ôl rhyw hanner can metr ym 1992.

 

Cafodd y Swyddfa Dollau ei symud yn ôl rhyw hanner can metr i ddarparu lle i’r rhodfa newydd

 

Nid yw adeiladau eraill wedi goroesi. Mae safle Merthyr House ar gornel James Street ac Evelyn Street yn wag. Ar ôl cael ei ddifrodi gan dân ym 1947, ni chafodd ei ran ogleddol erioed ei hailadeiladu. Cafodd   ar gornel dde-ddwyreiniol Sgwâr Mount Stuart ei ddymchwel ar ôl storm eira 1982. Ar gornel dde-orllewinol y sgwâr mae Bethel, Capel y Bedyddwyr Saesneg, a oedd yn glwb nos Casablanca o 1965, bellach yn faes parcio. Chwalwyd rhai adeiladau i wneud lle i ddatblygiadau newydd. Ym 1993, cafodd adeiladau ar Bute Place, Bute Street a Bute Crescent, gan gynnwys yr adeilad rhestredig Gradd II Gwesty Mount Stuart, eu dymchwel wrth adeiladu Heol Gyswllt Butetown. Bu Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru ym Mae Caerdydd am gyfnod byr yn unig (1977-1998), cyn i siopau a thai bwyta Cei’r Forforwyn gymryd ei lle.

 

Mae’r llun hwn, a dynnwyd ym 1995, yn dangos faint mae Bae Caerdydd wedi newid mewn amser byr

 

Mae’r newidiadau hyn yn dangos mor bwysig yw rôl y Comisiwn Brenhinol. Erbyn sefydlu’r Comisiwn ym 1908, roedd llawer o adeiladau o ddiddordeb hanesyddol wedi cael eu codi a’u dymchwel. Yn y dyddiau cynnar roedd pwyslais y Comisiwn ar safleoedd a gawsai eu codi cyn y ddeunawfed ganrif. Ond yn sgil pryderon am yr adeiladau a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd, ehangwyd ein cylch gwaith i gynnwys adeiladau diweddarach, yn enwedig adeiladau mewn perygl. Mae gennym gannoedd o gofnodion a delweddau yn ein harchif sy’n ymwneud ag adeiladweithiau ym Mae Caerdydd sydd wedi’u colli: dyma gofnod parhaol o hanes arforol cyfoethog Caerdydd a Chymru.

 

Cardiff Bay in 2012 / Bae Caerdydd yn 2012

 

Oriel: Gwellwyd yn Ddiweddar – Bae Caerdydd, Haf 2018

 

Darllen Pellach:

David Hilling, ‘Through Tiger Bay to Cardiff Bay – Changing Waterfront Environment’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1990), 173-191.

Mae Archifau Morgannwg wedi ysgrifennu nifer o bostiadau blog ardderchog ar lawer o safleoedd ym Mae Caerdydd a Chaerdydd yn gyffredinol. Gallwch gyrchu gwefan yr archifdy yma.

 

Adam N. Coward

]]>
https://cbhc.gov.uk/bae-caerdydd-amgylchedd-syn-newid-yn-barhaus-rhan-ii/feed/ 0
Darganfyddwch Fryngaer Dinas Dinlle ger Caernarfon: taith gerdded wedi’i harwain gan archaeolegwyr a daearyddwyr CHERISH https://cbhc.gov.uk/darganfyddwch-fryngaer-dinas-dinlle-ger-caernarfon-daith-gerdded-wedii-harwain-gan-archaeolegwyr-a-daearyddwyr-cherish/ https://cbhc.gov.uk/darganfyddwch-fryngaer-dinas-dinlle-ger-caernarfon-daith-gerdded-wedii-harwain-gan-archaeolegwyr-a-daearyddwyr-cherish/#respond Thu, 09 Aug 2018 09:12:46 +0000 https://rcahmw.gov.uk/?p=11620  

Dysgwch am hanes, chwedloniaeth a thirwedd y lle arbennig yma, ac am yr ymchwil diweddaraf sy’n cael ei wneud i effaith newid hinsawdd ar yr heneb eiconig hon o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Dydd Mercher 22 Awst 2018 

10am: Taith gerdded fyrrach i’r teulu, yn addas i fforwyr ifanc!

2pm: Taith gerdded lawn

 

Lleoliad: LL54 5TW (SH 4370 5635)

Hyd: Hyd at 2 awr

Pellter:  1 filltir

Tir: Cymysg gyda rhai llethrau serth i fyny ac i lawr

 

Digwyddiad am ddim yw hwn ac fe’i cynhelir yn y Saesneg. Mae nifer cyfyngedig o leoedd felly mae’n rhaid bwcio.  I gael mwy o wybodaeth ac i gadw’ch lle, cysylltwch â: Rhian Davies 01970 621231 neu e-bostiwch Cherish@rcahmw.gov.uk

 

 

]]>
https://cbhc.gov.uk/darganfyddwch-fryngaer-dinas-dinlle-ger-caernarfon-daith-gerdded-wedii-harwain-gan-archaeolegwyr-a-daearyddwyr-cherish/feed/ 0
Penodi Cadeirydd (Cymraeg yn hanfodol) a Chomisiynwyr (Dwy swydd) https://cbhc.gov.uk/penodi-cadeirydd-cymraeg-yn-hanfodol-a-chomisiynwyr-dwy-swydd/ https://cbhc.gov.uk/penodi-cadeirydd-cymraeg-yn-hanfodol-a-chomisiynwyr-dwy-swydd/#respond Wed, 08 Aug 2018 09:39:38 +0000 https://rcahmw.gov.uk/?p=11576

 

 

 

 

 

Cydnabyddiaeth ariannol: 

Cadeirydd:  £256 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am ymrwymiad amser o ryw 15 diwrnod y flwyddyn
Comisiynwyr:  £198 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am  ymrwymiad amser o ryw 10 diwrnod y flwyddyn. 

Allwch chi’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl ar gyfer pobl Cymru?

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn wasanaeth archifo ac archwilio cenedlaethol annibynnol unigryw i Gymru, ac mae’n ymroi i gofnodi a dehongli’n hamgylchedd hanesyddol cyfoethog mewn ffordd awdurdodol. Mae’n gweithio o adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ac yn gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, ac mae ganddo staff medrus sy’n rhoi cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i’r cyhoedd. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru, gan feithrin gwell gofal a dealltwriaeth o’n hadeiladau a’n tirweddau hanesyddol, a meithrin a chydnabod y potensial sydd gan dreftadaeth i helpu i wella bywydau pobl.

Gan adeiladu ar ein llwyddiannau ac ar yr hyn a gyflawnwyd yn ddiweddar, rydym yn chwilio am bobl i ymuno â’n Bwrdd Comisiynwyr a fydd yn barod i helpu i gyfarwyddo’n gwaith ac i’w herio a’i adolygu mewn ffordd adeiladol. Rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu’n bwrdd ac i gyflwyno amrywiaeth o ran yr aelodau, felly rydym yn chwilio am Gadeirydd a dau Gomisiynydd newydd sydd â chryn brofiad neu arbenigedd ar lefel uwch a/neu ar lefel strategol mewn un neu fwy o’r meysydd a ganlyn:

  1. Cadeirydd: Y Cadeirydd sy’n gyfrifol, ar ran y Goron, am sicrhau bod y Comisiwn Brenhinol yn gweithredu mewn modd sy’n gydnaws â’r ysbryd sy’n sail i’w waith, ac ef/hi sy’n sicrhau bod gweithgareddau’r Comisiwn yn cydymffurfio â’r dyletswyddau sydd wedi’u corffori yn y Warant Frenhinol sy’n sail i’w gyfansoddiad. Rydym yn awyddus i recriwtio Cadeirydd a fydd yn gallu cynnig arweiniad strategol a meithrin perthynas gadarnhaol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
  2. Pensaernïaeth yr ugeinfed ganrif: Rydym yn awyddus i recriwtio Comisiynydd sydd â dealltwriaeth gadarn o adeiladau a thechnegau adeiladu’r cyfnod ac sydd â’r weledigaeth strategol i’n helpu i flaenoriaethu’n gwaith a chynghori’r Comisiwn ar arwyddocâd posibl mathau o adeiladau, adeiladau unigol a thirweddau sydd wedi’u cynllunio.
  3. Treftadaeth forol: Rydym yn awyddus i recriwtio Comisiynydd sydd â phrofiad yn y maes i gynghori’r Comisiwn am flaenoriaethau strategol er mwyn sicrhau bod arwyddocâd treftadaeth forol Cymru yn cael ei ddeall, ei hyrwyddo a’i ddiogelu’n ddigonol.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 16 Medi 2018. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i’r cyfweliadau ar gyfer y Cadeirydd gael eu cynnal ar 26 Tachwedd a’r cyfweliadau ar gyfer y Comisiynwyr ar 27/28 Tachwedd.

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, ewch i http://llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

]]>
https://cbhc.gov.uk/penodi-cadeirydd-cymraeg-yn-hanfodol-a-chomisiynwyr-dwy-swydd/feed/ 0
Bae Caerdydd: Amgylchedd sy’n Newid yn Barhaus, Rhan I https://cbhc.gov.uk/bae-caerdydd-amgylchedd-syn-newid-yn-barhaus-rhan-i/ https://cbhc.gov.uk/bae-caerdydd-amgylchedd-syn-newid-yn-barhaus-rhan-i/#respond Mon, 06 Aug 2018 09:30:25 +0000 https://rcahmw.gov.uk/?p=11497 Gellir adnabod glannau Bae Caerdydd ar unwaith: mae Adeilad y Pierhead gyda’i frics coch tywyll, wedi’i amgylchynu gan linellau crwm ac onglau miniog ei gymdogion mwy diweddar, yn rhan o amgylchedd adeiledig amrywiol sydd wedi datblygu’n raddol dros gyfnod o ryw ddwy ganrif. Mae adeiladau ar hyd a lled Butetown yn adrodd hanes y datblygu hwn: o bensaernïaeth syml Gwesty Bute Dock i’r Gyfnewidfa Lo uchel-Fictoraidd crand ac adeilad gosgeiddig o fodern y Senedd.

 

Pen gogleddol Doc Dwyreiniol Bute, sef Glanfa Iwerydd bellach, ym 1921.

 

Cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant arforol Caerdydd yn gweithredu o gei’r ddinas, wedi’i leoli lle mae Quay Street a Westgate Street yn croesi ei gilydd. Gyda’r diwydiannu cynyddol yng nghymoedd Taf a Rhondda ac adeiladu camlesi ac yna reilffyrdd a oedd yn eu cysylltu â Chaerdydd, sylweddolwyd bod y fflatiau lleidiog i’r de yn cynnig cyfleoedd newydd. Agorwyd Doc (Gorllewinol) Bute ym 1839, Doc Dwyreiniol Bute mewn camau rhwng 1855 a 1859, Doc y Rhath ym 1887, a Doc y Frenhines Alexandra ym 1907.

 

Mae Gwesty Bute Dock, a agorwyd ym 1839, yn parhau i gynrychioli’r olaf o’i fath.

 

Roedd Tre-biŵt yn fwy nag ardal ddiwydiannol. Cynlluniodd Stad Bute adeiladau preswyl a masnachol ochr yn ochr â’r dociau a’r warysau. Agorodd llu o dafarndai ac mae Gwesty Bute Dock, a agorwyd yr un flwyddyn â’r doc, yn parhau i gynrychioli’r olaf o’i fath. Dengys Sgwâr Mount Stuart fwriad a datblygiad y fenter. Cafodd ei adeiladu ym 1858 gan Stad Bute i ddarparu tai i weithwyr medrus ar safle gwaith gwydr. Roedd llecyn gwyrdd yn y canol. Gellir gweld enghreifftiau o’r bensaernïaeth wreiddiol o hyd yn rhifau 6-9 ar yr ochr ddwyreiniol a rhifau 20-23 yn y gongl dde-orllewinol. Wrth i Gaerdydd ffynnu gadawodd y bobl a oedd yn byw yn y sgwâr am y maestrefi ac o’r 1880au ymlaen codwyd yr adeiladau hynod addurnedig a’r Gyfnewidfa Lo sydd i’w gweld yno heddiw.

 

Mae Perch Buildings, gyda’i loriau uchaf o c.1858 a’i lawr gwaelod o 1889, yn dangos sut y datblygodd Sgwâr Mount Stuart

 

Mae’r adeiladau hyn o ddiwedd oes Fictoria yn parhau i sefyll, yn dyst i gyfoeth Bae Caerdydd. Ar Bute Street cafodd adeilad addurnol Banc y Midland ei adeiladu ym 1874 i’r Brodyr Cory, perchenogion ac allforwyr glo. Ychydig dros ddegawd yn ddiweddarach, symudodd y cwmni ei swyddfeydd i adeilad pwrpasol newydd: Cory’s Building ar y gornel gyferbyn!

 

Adeiladodd y Brodyr Cory Cory’s Building ym 1889, gan symud o adeilad ar y gornel gyferbyn.

 

Yn anffodus, mae adeiladau sy’n dangos sut yr oedd y bobl gyffredin yn byw wedi’u colli i raddau helaeth gan i lawer o ardaloedd preswyl Tiger Bay gael eu dymchwel o’r 1960au ymlaen. Sut bynnag, nid y rhain oedd yr unig adeiladau i ddisgyn dan ergydion y belen chwalu, gan i’r dirwedd adeiledig gyfnewidiol hon fynd drwy gyfnod arall o drawsnewid mawr, fel yr esboniwn yn ein postiad blog nesaf yn nes ymlaen yr wythnos hon.

 

Bae Caerdydd ym 1937.

 

Oriel: Gwellwyd yn Ddiweddar – Bae Caerdydd, Haf 2018

 

Darllen Pellach:

David Hilling, ‘Through Tiger Bay to Cardiff Bay – Changing Waterfront Environment’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1990), 173-191.

Mae Archifau Morgannwg wedi ysgrifennu nifer o bostiadau blog ardderchog ar lawer o safleoedd ym Mae Caerdydd a Chaerdydd yn gyffredinol. Gallwch gyrchu gwefan yr archifdy yma.

 

Adam N. Coward

 

 

]]>
https://cbhc.gov.uk/bae-caerdydd-amgylchedd-syn-newid-yn-barhaus-rhan-i/feed/ 0
Bwletin o Ddeunydd Newydd ei Gatalogio – Gorffennaf 2018 https://cbhc.gov.uk/comisiwn-brenhinol-archif-llyfrgell-bwletin-o-ddeunydd-newydd-ei-gatalogio-gorffennaf-2018-2/ https://cbhc.gov.uk/comisiwn-brenhinol-archif-llyfrgell-bwletin-o-ddeunydd-newydd-ei-gatalogio-gorffennaf-2018-2/#respond Tue, 31 Jul 2018 16:07:12 +0000 https://rcahmw.gov.uk/?p=11393 Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Fwletin Archifau a Llyfrgell Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Gellir gweld yr eitemau archifol a’r llyfrau llyfrgell ac erthyglau o gylchgronau yn ein hystafell ddarllen gyhoeddus. Gellir gweld y deunydd archifol ar Coflein hefyd yn www.coflein.gov.uk. Gellir dod o hyd i bob cyhoeddiad yn ein Catalog Llyfrgell ar-lein.

Rydym ar agor i’r cyhoedd ar yr adegau canlynol:
Dydd Llun – Dydd Gwener 09.30 – 16.00,
Dydd Mercher 10.30 – 16.30.
Fe’ch cynghorir i wneud apwyntiad.

Archifau

Ffotograff arosgo lliw CBHC o Fae Caerdydd yn edrych tuag at Gei’r Forforwyn, 2012 Cyfeirnod AP_2012_2101 C.916374 NPRN: 422952

 

Casgliad Gwasanaethau Archaeolegol a Threftadaeth ArchaeoDomus : Cyfeirnod ADAHS

Arolygon digidol o amryfal adeiladau a safleoedd yng Nghymru

Dyddiadau a gwmpesir: 2015-2018

 

Archaeological Perspectives Analysis Consultancy (A.P.A.C. Ltd)

Cofnodion digidol yn ymwneud ag ymchwiliadau archaeolegol yn:

 

Adroddiadau/Gwerthusiadau Archaeolegol (nid gan yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol)

Archifau prosiect yn ymwneud â:

 

Archifau Arolwg Border Archaeology

Adroddiadau Archaeolegol yn ymwneud â:

 

Casgliad Sleidiau Cadw: Cyfeirnod CS

Casgliad o sleidiau a chofrestri perthynol a gynhyrchwyd  neu a gasglwyd gan Cadw/Y Swyddfa Gymreig dros nifer o flynyddoedd. Dengys y delweddau safleoedd ac adeiladau archaeolegol ar hyd a lled Cymru a rhai safleoedd yn Iwerddon hefyd.

Dyddiadau a gwmpesir: 1960-2010

 

Y Casgliad Cofnodi Brys

Deunydd a dderbyniwyd fel rhan o’r broses gynllunio, yn ymwneud â:

 

Y Prosiect Teithwyr Ewropeaidd yng Nghymru

Deunydd yn ymwneud â’r prosiect, yn cynnwys:

  • Ffilm fer sy’n canolbwyntio ar ymweliadau teithwyr o Ffrainc a’r Almaen â thref ddiwydiannol Merthyr Tudful ar ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’u disgrifiadau hwy o’r dref, 2018: Cyfeirnod ETW_MT
  • Delweddau o Bont Grog Conwy, 2017: Cyfeirnod ETW_CSG
  • Delweddau o Bont y Borth, Porthaethwy, 2017: Cyfeirnod ETW_MBG
  • Delweddau o Felin Wynt Mynydd Parys, 2017: Cyfeirnod ETW_PMG
  • Delweddau o Castle Hill, Dinbych-y-pysgod, 2017: Cyfeirnod ETW_TG

Canolfan Mileniwm Cymru ac Adeilad y Pierhead, Caerdydd, 2006 Cyfeirnod DS2006_104_002 C.524373 NPRN: 403908

 

Ffotograffiaeth Ddigidol yr Ymchwilwyr

Arolygon ffotograffig yn ymwneud â:

 

Cofnodion Cloddio Paul Courtney: Cyfeirnod PCER

Cofnodion cloddio’n ymwneud â Thyndyrn a Brynbuga (a safleoedd eraill ), yn cynnwys nodiadau, lluniadau safle a sleidiau

Dyddiadau a gwmpesir: 1970au

 

Casgliad Paul R. Davis: PRD_02

Awyrluniau lliw yn ymwneud ag amryfal safleoedd yng Nghymru

Dyddiadau a gwmpesir: 2018

 

Casgliad o Awyrluniau Fertigol yr Arolwg Ordnans: Y Casgliad Printiau Mawr

Yn cynnwys helaethbrintiau du a gwyn (c.20″) wedi’u cymryd o roliau 9″. Wedi’u ffeilio yn nhrefn yr wyddor yn ôl tref, cymuned neu nodwedd

Dyddiadau a gwmpesir: 1963-1997

 

 

Awyrluniau Arosgo Digidol Lliw CBHC

Awyrluniau arosgo yn dangos:

 

Casgliad Cyhoeddiadau Camlas Maldwyn CBHC: Cyfeirnod AMC03

Deunydd, wedi’i gynhyrchu gan Gomisiwn Gwasanaethau’r Gweithlu ar y cyd â CBHC a Chyngor Dosbarth Sir Drefaldwyn, yn ymwneud â phrosiect i gofnodi gwahanol adeiladweithiau ar hyd Camlas Maldwyn

Dyddiadau a gwmpesir: 1970-1988

 

Casgliad Llinell Trawsyrru Trydan Abertawe i’r Fenni

Rhan o arolwg yn deillio o brosiect a gomisiynwyd gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol, yr ymgymerwyd ag ef gan Fairey Surveys Ltd

Dyddiadau a gwmpesir: 1968

 

Casgliad Tucker: Cyfeirnod DGT

Casgliad o nodiadau, sleidiau, mapiau, lluniadau, gweithredoedd, papurau, erthyglau a thrawsgrifiadau, i gyd wedi’u casglu neu eu cynhyrchu gan D. G. Tucker, cyn Gomisiynydd Brenhinol, a’i wraig Mary. Mae’r cofnodion yn cynnwys deunydd yn ymwneud â Diwydiant Llechi Sir Benfro, Mwyngloddiau Sir Aberteifi, Melinau Afon Tefeidiad, Melinau Sir Faesyfed a Druid’s Inn, a blwch o ddeunydd amrywiol ar wahanol safleoedd a thopigau.

Dyddiadau a gwmpesir: 1970-1997

‘Dolffiniaid’ yn Nociau Caerdydd, 1973 Cyfeirnod DI2007_1356 C.417076 NPRN: 91412

Llyfrau

Ashton, Owen R. 1980 reprint. A short history of Builth Wells: from Medieval to Modern times. Wyeside Arts Centre: Builth Wells.

Evans, R.M. 1972. Children in the iron industry 1840 – 42. National Museum of Wales: Cardiff.

Evans, Tony. 1974. Tin workers. Tony Evans: Llanelli.

Llangollen Urban District Council. [1970?]. Lovely Llangollen: The scenic gem of North Wales: the official guide. Llangollen Urban District Council: Llangollen.

Keating, M. Honora. 1965. Plas-yn-Rhiw. Gwenlyn Evans: Caernarvon.

Miles, John; Thomas, Keri & Watkins, Tudor. 2017. The Swansea Vale Railway: a Midland railway outpost. Lightmoor Press: Lydney.

Postles, Dave. 2017. The north through its names: a phenomenology of Medieval and early-modern northern England. Oxbow Books: Oxford.

Purchon, W.S and Bartlett, C.J. 1932. A small town house of the Georgian period in Wales: no. 6, Working Street, Cardiff. Cardiff: National Museum of Wales.

Sampson, Aylwin. 1972. Llanbedr Pont Steffan = Lampeter. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: Aberystwyth.

Sampson, Aylwin. 1972. Aberteifi = Cardigan. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: Aberystwyth.

Seaborne, Malcolm. 1998. A guide to the stained glass in St. Asaph Cathedral. Dean and Chapter of St. Asaph Cathedral: St. Asaph.

Simpson, Anne Turner and Stevenson, Sylvia [Eds.]. 1980. Town houses and structures in Medieval Scotland: a seminar. University of Glasgow Dept. of Archaeology: Glasgow.

Thomas, W. Gerwyn. 1979. Welsh coal mines. National Museum of Wales: Cardiff.

White, Richard. 1987. Caerleon: Roman Fortress. Cadw: Welsh Historic Monuments: Cardiff.

White, Richard. 1988. St. Davids. Cadw: Welsh Historic Monuments: Cardiff.

William, Eurwyn. 1973. Adeiladau fferm traddodiadol yng Nghymru. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Young, Norman R. [Ed.] 1971. What you will see in the Vale of Rheidol: Britain’s first railway nature trail. West Wales Naturalist’s Trust Limited: Aberystwyth.

 

Cyfnodolion

Archaeology in Wales Volume 56 (2017).

Cartographic Journal Volume 55 No. 2 (Mai 2018).

 Current Archaeology Issue 341 (Awst 2018).

 The Georgian: Magazine of the Georgian Group Issue 1 (2018).

The Georgian Group Journal Volume 26 (2018).

Journal of the Railway and Canal Historical Society No. 232, Volume 39, Part 5 (Gorffennaf 2018).

 Llafur: Journal of Welsh People’s History Volume 12, No. 2 (2017).

Maplines Volume 32, Issue 1 (Gwanwyn 2018).

Past: the Newsletter of the Prehistoric Society Volume 89 (Haf 2018).

Railway and Canal Historical Society Bulletin No. 474 (Gorffennaf 2018).

Tools and Trades History Society Newsletter Volume 140 (Trinity 2018).

Touchstone: the magazine for architecture in Wales Volumes 01-09, 16-18.

Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych / Denbighshire Historical Society Transactions Cyfrol 66 (2018).

The Victorian Volume 58 (Gorffennaf 2018).

Victorian Society: News (Gorffennol 2018).

Cymdeithas Melinau Cymru / Welsh Mills Society Newsletter, Number 132 (Gorffennaf 2018).

Welsh Railways Archive, Journal of the Welsh Railways Research Circle Volume 6, No. 7 (Mai 2018).

Welsh Railways Research Circle Newsletter No. 155 (Haf 2018).

 

Cylchgronau: Ymwybyddiaeth Gyfredol

The Georgian: Magazine of the Georgian Group Iss. 1 (2018) tt.12-25 Gwaith achos: Capel y Babell, Cwmfelin-fach; The Guildhall, Caerfyrddin; Neuadd Fawr, Cil-y-cwm; Gwesty Plas Hafod, Gwernymynydd; Plas Tŷ Coch, Caernarfon; Glynllifon, Llandwrog; Tŷ Caerwent, Caer-went; Gwentlands, Cas-gwent; 25 St James’ Square, Trefynwy; Ysgubor Ddyrnu, Llanddewi Felffre; Fferm Alleston, Penfro; y Bull’s Head Inn gynt, Aberhonddu; Peace Cottage, Evancoyd; Tŷ Ystrad, Trefyclo. tt.38-42, ‘Naval architecture in the eighteenth century’, Charlotte Ward.

Journal of the Railway and Canal Historical Society No. 232, Volume 39, Part 5 (Gorffennaf 2018), tt.293-305 erthygl gan Stephen Rowson, ‘Low Water Pier 1870-c1890: an overlooked railway station at Cardiff’.

Victorian Society: News (Gorffennaf 2018), t.3 mynegi pryder bod Barics Amddiffynnol Doc Penfro ar werth.

Morglawdd Bae Caerdydd, 1998 Cyfeirnod GTJ28568 C.61208 NPRN: 305755

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Gwasanaeth Llyfrgell ac Ymholiadau CHCC
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais
Aberystwyth
Ceredigion SY23 3BU

Ffôn: +44 (0)1970 621200
Ffacs: +44 (0)1970 627701
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Gwefan: cbhc.gov.uk

Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg | Correspondence welcomed in Welsh and English
]]>
https://cbhc.gov.uk/comisiwn-brenhinol-archif-llyfrgell-bwletin-o-ddeunydd-newydd-ei-gatalogio-gorffennaf-2018-2/feed/ 0