CBHC / RCAHMW > Newyddion > Fferi a Gelyn – Fferïau ac agerlongau post Môr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Mawr

Fferi a Gelyn – Fferïau ac agerlongau post Môr Iwerddon yn ystod y Rhyfel Mawr

Mae llongddrylliad y CORK yn ein hatgoffa o’r gwasanaethau fferi, cargo a phost hanfodol a oedd yn rhedeg rhwng Cymru ac Iwerddon drwy gydol y rhyfel. Y ddau brif gwmni a oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn oedd y City of Dublin Steamship Company (CDSPCo) a’r London and North Western Railway Company (LNWR), a dioddefodd y ddau ohonynt golledion o ganlyniad i wasanaeth milwrol ac ymosodiadau gan longau tanfor.

Gellir olrhain hanes y CDSPCo yn ôl i Charles Wye Williams, mab Ysgrifennydd cyntaf Banc Iwerddon. Ei agerlong gyntaf oedd y CITY OF DUBLIN a lansiwyd ym 1823. Aeth y cwmni o nerth i nerth, gan sefydlu cwmnïau mordwyaeth ager ar y dyfrffyrdd mewndirol a llwybrau ar draws Môr Iwerddon a Môr Iwerydd. Ym 1850, enillodd y cwmni ei gontract cyntaf i gludo’r Post Brenhinol ar draws Môr Iwerddon rhwng Kingstown (Dún Laoghaire heddiw) a Chaergybi. Arweiniodd y llwyddiant hwn at gyfnod newydd o gystadleuaeth ffyrnig rhwng y CDSPCo a’r Chester & Holyhead Railway Company (y London and North Western Railway Company (LNWR) yn ddiweddarach), nad oedd ganddo ond y contract i gludo’r post ar y rheilffordd (roedd llongau’r cwmni yn cludo teithwyr i Kingstown a chargo a gwartheg i’r North Wall yn Nulyn ac roedd yn awyddus i ennill y contract post hynod broffidiol hefyd).

Ym 1895, llwyddodd y CDSPCo i atal yr LNWR rhag cael y contract ar gyfer gwasanaeth cyflym newydd. Archebodd y CDSPCo bedair agerlong ddwysgriw unfath gan Laird Bros, sef yr ULSTER (1896), y MUNSTER (1896), y CONNAUGHT (1897), a’r LEINSTER (1897). Llongau newydd eraill a adeiladwyd ar gyfer llynges y CDSPCo oedd y WICKLOW (1895), y CORK (1899), y KERRY (1898), a’r LOUTH (1899).

 

Adeiladwyd y CORK gan Blackwood and Gordon, Port Glasgow, a châi ei defnyddio gan y CDSPCo i gludo gwartheg a theithwyr rhwng Lerpwl a Dulyn. Ffynhonnell: Simplon Postcards http://www.simplonpc.co.uk/CityofDublin.html

Adeiladwyd y CORK gan Blackwood and Gordon, Port Glasgow, a châi ei defnyddio gan y CDSPCo i gludo gwartheg a theithwyr rhwng Lerpwl a Dulyn. Ffynhonnell: Simplon Postcards http://www.simplonpc.co.uk/CityofDublin.html

 

Archebodd yr LNWR longau newydd hefyd – ymunodd yr OLGA a’r ANGLESEY â llwybr y North Wall a’r IRENE â’r llwybr cargo, ac ar ddiwedd 1897 derbyniwyd y CAMBRIA, y gyntaf o bedair chwaerlong ar gyfer y gwasanaeth teithwyr, gan Denny’s o Dumbarton. Cyrhaeddodd yr HIBERNIA ym mis Chwefror 1900, yr ANGLIA ym mis Mai 1900, a’r SCOTIA ym mis Ebrill 1902.

Ar ddechrau’r Rhyfel Mawr, cafodd agerlongau’r LNWR eu hatafael a’u troi’n agerlongau arfog yn yr Adran Forol Caergybi. O dan delerau’r contract post, roedd agerlongau’r CDSPCo wedi’u heithrio ar y dechrau a hwy a ddarparai’r prif wasanaeth i Iwerddon. Ond maes o law cawsant orchymyn gan y Morlys i fynd i Laird Bros ym Mhenbedw i gael gynnau wedi’u gosod ar eu deciau.

Ceir llawer o gofnodion yn nyddlyfrau llongau’r CDSPCo yn disgrifio cyfarfyddiadau â llongau tanfor yr Almaen. Er enghraifft, mae dyddlyfr y LEINSTER yn cofnodi ‘Hwylio yn y Nos. Rhagfyr 27, 1917. Torpido o fewn llathenni i daro’ a ‘Hwylio yn y Nos. Mawrth 15, 1918: Am 4.41 Byddwch yn barod. Am 4.45 Telegraff argyfwng, symud yn ôl ar frys i osgoi llong danfor gerllaw’. Nid cyfarfyddiadau hap a damwain oedd y rhain, roedd y llongau tanfor wedi cael gorchmynion i chwilio am agerlongau a oedd yn cludo’r post i Iwerddon a’u suddo.

Gorchmynion sefydlog y Morlys oedd hwylio mor gyflym â phosibl heb oleuadau – pe bai’r llong yn arafu byddai’n darged haws. Mae log yr ULSTER yn nodi digwyddiad ar 24 Mawrth 2017 sy’n dangos bod llongwyr yn ymwybodol o’r gorchmynion hyn: ‘10.30am: arafu a stopio i godi 3 chriw mewn badau ond gwrthodwyd ein cymorth. Am 10.36am: hwylio ymlaen mor gyflym â phosibl.’ Byddai gwrthod cymorth fel hyn yn awgrymu bod criw’r llong hwylio HOWE yn pryderu mwy am y perygl i’r agerlong nag am y perygl iddynt hwy eu hunain ar y foment honno. Roedd yr HOWE wedi cael ei suddo ar ôl cael ei chipio gan long danfor Almaenig dim ond ychydig o oriau ynghynt.

Cofnodwyd digwyddiadau eraill lle arhosodd agerlongau’r CDSPCo i achub goroeswyr – cafodd wyth morwr Chineaidd mewn bad achub yn perthyn i’r MEXICO CITY, a oedd wedi cael ei suddo gan yr U-110 ar 5 Chwefror 1917, eu codi gan y LEINSTER ar 6 Chwefror a’u glanio yng Nghaergybi. Hefyd gwelodd yr ULSTER fad achub â’i ben i lawr a phedwar dyn yn gafael ynddo ar 13 Hydref 1917. Hwyliodd o’u cwmpas hyd nes i fad patrôl eu cyrraedd.

Roedd yr agerlongau post yn dargedau hefyd gan eu bod yn cael eu defnyddio fel llongau cludo milwyr. Gwelir tystiolaeth dros hyn yn logiau’r agerlongau sy’n nodi bod cludo milwyr yn peri oedi, e.e. ‘yn aros am gyfarwyddiadau’r Morlys’, ‘codi a glanio milwyr’, ac ‘aros am longau hebrwng’. Ni chafodd llongau hebrwng eu defnyddio i amddiffyn yr agerlongau mewn ffordd drefnedig ar y dechrau, ond sefydlwyd trefn fwy ffurfiol yn y man gan ddefnyddio distrywlongau o UDA a Phrydain, awyrennau môr o Orsaf Awyr Lyngesol yr Unol Daleithiau (USNAS) yn North Wexford, awyrlongau Submarine Scout Zero a oedd yn gweithredu rhwng South Wexford a Chastell Malahide, ac awyrlongau a oedd yn hedfan o’r Orsaf Awyr Lyngesol Frenhinol (RNAS) yn Llangefni, Môn.

 

Cafodd y ddelwedd sonar amlbaladr hon o’r CORK ei chynhyrchu gan Brifysgol Bangor ac mae’n awgrymu bod rhannau o’r dec wedi dymchwel.

Cafodd y ddelwedd sonar amlbaladr hon o’r CORK ei chynhyrchu gan Brifysgol Bangor ac mae’n awgrymu bod rhannau o’r dec wedi dymchwel.

 

Roedd colli’r CORK i dorpido a daniwyd gan yr U-103 ar 26 Ionawr 1917 yn ergyd drom i’r CDSPCo. Arweiniodd hefyd at farwolaethau saith teithiwr a phump o’r criw. Er i’r cwmni gael y contract i ddanfon y post eto ym mis Awst 1918, roedd colli un  o’i longau yn gwneud gweithredu’r gwasanaeth yn ôl yr amserlenni tynn angenrheidiol yn eithriadol o anodd.

Bu bron i’r ULSTER fynd yn ysglyfaeth i ymosodiad gan yr UB-123 ar 10 Hydref 1918, ond achubodd ei hun drwy hwylio ar gwrs igam-ogam. Ond yn fuan wedyn fe welodd y llong danfor y LEINSTER. Cafodd ei tharo gan ddau dorpido, a’r canlyniad oedd trychineb erchyll gyda 529 o fywydau’n cael eu colli. Cyfrannodd colli’r LEINSTER at anawsterau ariannol cynyddol y CDSPCo a byddai’n peri tranc y cwmni yn y pen draw.

 

Mae’r angor o’r RMS LEINSTER wedi cael ei osod yn gofeb yn Dún Laoghaire. Yn swyddogol bu farw 501 o bobl – y golled unigol fwyaf ym Môr Iwerddon.

Mae’r angor o’r RMS LEINSTER wedi cael ei osod yn gofeb yn Dún Laoghaire. Yn swyddogol bu farw 501 o bobl – y golled unigol fwyaf ym Môr Iwerddon.

 

O ran llongau’r LNWR, collwyd yr ANGLIA ar 17 Tachwedd 1915, wrth gludo bron 400 o filwyr clwyfedig a staff meddygol, ar ôl taro ffrwydryn wedi’i osod gan yr UC-5 yng Nghulfor Dofr. Cafodd yr HIBERNIA ei hatafael hefyd a bu’n gweithredu fel HMS TARA. Cafodd ei suddo gan yr U-35 ar 5 Tachwedd 1915 ym Mae Sollum, Môr y Canoldir. Suddwyd y SLIEVE BLOOM mewn gwrthdrawiad â’r USS STOCKTON ar 20 Mawrth 1918 oddi ar Gaergybi. Distrywlong Americanaidd oedd yr USS STOCKTON a oedd yn rhan o’r ymgyrch yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ym Môr Iwerddon.

Er gwaethaf y colledion hyn, daeth yr LNWR allan o’r rhyfel mewn sefyllfa lawer cryfach na’r CDSPCo i redeg y gwasanaeth post o Gaergybi i Ddulyn. Gan ragweld y problemau a fyddai gan y CDSPCo i fodloni amserlenni llym y contract newydd, archebodd yr LNWR bedair llong newydd ym 1919 ac roedd ei gynnig yn llwyddiannus y tro hwn.

Ar 27 Tachwedd 1920, fe gludodd y MUNSTER, un o longau’r CDSPCo, y post olaf dan gontract.  Cafodd y cwmni ei ddirwyn i ben gan bwyllgor dethol o Dŷ’r Arglwyddi ym 1922 ar ôl mwy na chanrif o weithredu gwasanaethau rhwng Caergybi ac Iwerddon.

Geoffrey Hicking a Deanna Groom, CBHC

 

Darllen pellach:

  • Merrigan, Justin P ac Ian H Collard, 2010, Holyhead to Ireland: Stena and its Welsh Heritage
  • Stokes, Roy, 1998, Death in the Irish Sea: The Sinking of the RMS LEINSTER

 

Partneriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw
Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18
: Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan.

Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni . www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.

22/05/2018

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x