
Ffonau Clyfar – Ai Dyma Ddyfodol Dehongli Treftadaeth?
Bydd Andrew Kerry-Bedell o KB consultants ac IT’s in Conservation yn dod i gynhadledd Gorffennol Digidol 2013 i siarad am ddefnyddio technoleg y ffôn clyfar i ddarparu dehongli symudol ar gyfer cynulleidfaoedd ar safleoedd treftadaeth. Pwyntiau allweddol papur Andrew fydd:
- Chwyldro’r ffôn clyfar a thueddiadau ymysg defnyddwyr
- Codau QR, Tagiau NFC, Realiti Estynedig a dehongli symudol arall
- Ymchwil i ddehongli symudol – profiad Llwybr Cenedlaethol y South Downs
- Gwneud i ddehongli wedi’i seilio ar y ffôn symudol weithio i bawb – canllawiau ymarferol
- Trafodaeth – gwersi a ddysgwyd o brosiectau diweddar a chwestiynau
11/12/2012