Ffordd Osgoi Y Drenewydd: cofnodi prosiect isadeiledd mawr o’r awyr

Gydag agor Ffordd Osgoi Y Drenewydd ym Mhowys ar 14 Chwefror 2019, ar gost o £80 miliwn, dyma gyfle i weld rhai lluniau ‘cynt ac wedyn’ a gasglwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn ystod ei raglen genedlaethol o ragchwilio o’r awyr yn haf 2016 a haf 2018.

Defnyddir y rhaglen hedfan i gofnodi archaeoleg o bob cyfnod, ond tynnir lluniau hefyd sy’n cofnodi ‘pobl, tirwedd a hanes Cymru’. Mae hyn yn cynnwys prosiectau peirianneg sifil mawr, er mwyn sicrhau bod awyrluniau o agweddau allweddol ar hanes Cymru’n cael eu diogelu i’r dyfodol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Mae mwy o awyrluniau i’w gweld ar-lein yn: https://coflein.gov.uk/en/site/423964/details/newtown-bypass

 

1. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r gorllewin Gorffennaf 2016.

1. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r gorllewin Gorffennaf 2016.

 

2. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r gorllewin Mehefin 2018.

2. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r gorllewin Mehefin 2018.

 

3. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r dwyrain Gorffennaf 2016.

3. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r dwyrain Gorffennaf 2016.

 

4. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r dwyrain Mehefin 2018.

4. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Golygfa tua’r dwyrain Mehefin 2018.

 

5. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Pen gorllewinol y gwaith ar y ffordd osgoi Mehefin 2018.

5. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Pen gorllewinol y gwaith ar y ffordd osgoi Mehefin 2018.

 

6. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Cyffordd newydd ac olion crasu’n dangos llwybr y ffordd Rufeinig, Neuadd Glanhafren Mehefin 2018.

6. Ffordd Osgoi Y Drenewydd: Cyffordd newydd ac olion crasu’n dangos llwybr y ffordd Rufeinig, Neuadd Glanhafren Mehefin 2018. https://coflein.gov.uk/cy/site/309315/details/glanhafren-roman-road

02/11/2019

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets