
Fy Hoff Safle: Castell Carreg Cennen gan Meilyr Powel, Cynorthwyydd Gwella Data y Comisiwn Brenhinol
Rydw i wedi dewis yr awyrlun hwn gan ei fod, yn fy marn i, yn amlygu dwy agwedd bwysig ar dreftadaeth Cymru.
Yr agwedd gyntaf yw’r amgylchedd naturiol, sef rhan o Sir Gâr ar gyrion gorllewinol Bannau Brycheiniog yn yr achos hwn. Ceir yma graig o galchfaen rhwng dwy ffawt sy’n edrych dros ddyffryn dwfn y mae afon Cennen yn llifo drwyddo. O ben y graig, mae’r olygfa dros y wlad o gwmpas yn syfrdanol ac mae’r defaid lleol, y gwartheg hirgorn pedigri a’r barcutiaid sy’n hedfan uwchben yn gwneud y llecyn hwn yn un nodedig a neilltuol iawn. Boed hi’n ddiwrnod oer yn y gaeaf neu’n ddiwrnod prysur yn yr haf, mae’r arogleuon, y seiniau a’r golygfeydd o ben yr uchelfan hwn yn wirioneddol fendigedig. Er imi gael fy ngeni a’m magu yn Nhreforys, a fy mod yn fwy cyfarwydd ag amgylchedd trefol prysur Abertawe a’i maestrefi na heddwch a llonyddwch cefn gwlad, y gwir yw bod yna gymaint o leoedd ar stepen eich drws (neu ychydig o filltiroedd i ffwrdd yn y car neu ar gefn beic), ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, lle gallwch fwynhau tirwedd naturiol gyfoethog ac amrywiol ein gwlad. Un lle o’r fath yw ardal Dyffryn Cennen yng ngorllewin Bannau Brycheiniog, lle codwyd Castell Carreg Cennen.

Castell Carreg Cennen
Yr ail agwedd yn y llun hwn yw’r amgylchedd adeiledig, hynny yw, Castell Carreg Cennen ei hun. Mae i’r castell hanes hir. Newidiodd ddwylo sawl gwaith, daeth yn darged ym 1403 yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, a chafodd ei gipio a’i rannol ddinistrio gan luoedd yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod. Er bod y rhan fwyaf o’r hyn sy’n weddill yn cael ei briodoli fel rheol i John Giffard, uchelwr yng ngwasanaeth Edward I y rhoddwyd y castell iddo ar ôl rhyfel 1282, castell Cymreig yw hwn yn ei hanfod. Mae’n debygol iawn bod llys o ganol y ddeuddegfed ganrif ar y safle a atgyfnerthwyd ag amddiffynfeydd gwaith maen gan Einion ap Anarawd neu’r Arglwydd Rhys (bu farw 1197), Tywysog Deheubarth. Mae’n debyg hefyd i deulu brenhinol Deheubarth ymgymryd â gwaith adeiladu pellach wedi hynny. Mae dau gastell trawiadol arall yn y cyffiniau, Dryslwyn a Dinefwr, yn tystio i’r ffaith mai dyma oedd perfeddwlad teyrnas Deheubarth. Fel deheuwr, teimlaf nad yw Deheubarth a Theulu Dinefwr yn cael y sylw maen nhw’n ei haeddu, yn wahanol i Wynedd a’i llinach hir o dywysogion sydd fel petai’n dwyn yr holl gyhoeddusrwydd Cymreig!
Yn ogystal â’r ddwy agwedd hyn, rydw i wedi dewis y safle oherwydd yr atgofion personol sy’n gysylltiedig ag ef. Yn fachgen ifanc, rydw i’n cofio ymweld â’r castell sawl gwaith ar brynhawniau Sadwrn gwlyb yn fy welis a’m cot, a chael fy nghyfareddu gan safle ysblennydd y castell wrth edrych i fyny arno o’r dyffryn. Byddwn yn dringo’r llwybr troellog o’r fferm yng nghwmni fy nhad a’m brodyr a byddem yn cael tynnu ein lluniau yn y pilori pren (sydd wedi mynd erbyn hyn yn anffodus), ac yna’n archwilio tiroedd y castell a phob twll a chornel ohono, gan chwifio cleddyfau syml o bren weithiau wrth ymosod ar y bylchfuriau! Byddai fy nhu mewn i’n corddi hefyd wrth fentro ar hyd y dramwyfa gromennog sydd wedi’i thorri i mewn i wyneb y clogwyn er mwyn cyrraedd yr ogof naturiol. Roedd yn rhaid cario tortsh wrth gwrs, a byddai fy nychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth archwilio’r ogof sy’n ymestyn 50 metr i mewn i’r bryn. Mae darnau arian Rhufeinig a gweddillion dynol sy’n mynd yn ôl i’r cyfnod Palaeolithig Uchaf wedi’u darganfod yn yr ogof. Dydw i ddim wedi cael dim byd yno fy hunan ysywaeth, ond rydw i’n byw mewn gobaith!
Byddai fy ymweliadau â Chastell Carreg Cennen bob amser yn fy ysbrydoli ac yn cryfhau fy niddordeb yn hanes a threftadaeth Cymru, a phan feddyliaf hefyd am y chwedlau a’r golygfeydd a oedd yn rhan annatod o’r teithiau hyn, gallaf ddweud mai’r safle hwn yn ddiamau yw un o’m hoff leoedd yng Nghymru.
▶️ Disgrifiad o’r safle a lluniau ar Coflein: Castell Carreg Cennen
Gan Meilyr Powel, Cynorthwyydd Gwella Data
05/25/2021