
Fy nghyflwyniad i’r gwaith yn y Comisiwn Brenhinol
Helo, Marisa ydw i ac ymunais â’r Comisiwn yn ddiweddar fel Cynorthwyydd Ymgysylltu â’r Cyhoedd ym mis Medi llynedd. Ar ôl cael fy magu yn Aberystwyth roeddwn wedi clywed am y Comisiwn, ond doedd gen i ddim syniad pa mor eang, diddorol a phwysig yw ein rôl o amddiffyn a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru.

Pan ddechreuais yn fy swydd, cefais gyfle i siarad â llawer o fobl sy’n arbenigo mewn meysydd o bensaernïaeth i archifo. Dechreuais ddeall pa mor bwysig yw pob un person i sicrhau fod yr adnoddau anhygoel o helaeth yr ydym yn eu casglu, yn derbyn gofal, ac ar gael i gymunedau ledled y byd eu mwynhau. Yr angerdd sydd gan fy nghydweithwyr am eu gwaith sy’n sicrhau cysylltiadau cryf a pharch tuag at y byd hanesyddol, amgylcheddol a chymdeithasol o’n cwmpas, ac mae’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gennym yn gwbl unigryw i’r Comisiwn.
Mae fy nghefnidir yn trefnu digwyddiadau a marchnata, felly mae bod mewn rôl sy’n canolbwyntio ar rannu adnoddau cyfoethog a diddorol er budd llwyr ein cynulleidfa yn sefyllfa hyfryd i fod ynddi. Mae fy ngwaith yn cynnwys rheoli dosbarthiad ein casgliad mawr o gyhoeddiadau, cynorthwyo ar ddigwyddiadau cyhoeddus, sgyrsiau ac ymweliadau a helpu gyda ‘Panel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion’. Mae gweithio gyda phobl ifanc i danio angerdd am dreftadaeth, hanes, archifo a chreadigrwydd wedi bod yn un o uchafbwyntiau niferus fy nghyfnod yma hyd yn hyn.
Mae’n amlwg i mi y gwerth anhygoel y mae’r Comisiwn yn ei roi i’n cymunedau, ac rwy’n gyffrous i fod yn rhan o’i waith, ei brosiectau a’i etifeddiaeth.
02/21/2020