
Gan Mlynedd Wedyn! Aerofilms: Hanes Prydain Oddi Fry
Gan mlynedd union yn ôl, ar 9 Mai 1919, cafodd Aerofilms Ltd ei eni. Gobaith y fenter fusnes hon – y gyntaf o’i math – oedd cyfuno egin dechnoleg yr awyren â disgyblaeth ffotograffiaeth. Y sylfaenwyr oedd Claude Grahame-White, arloeswr hedfan o Sais a oedd yn enwog drwy’r byd, a Francis Lewis Wills, pensaer hyfforddedig a oedd wedi hedfan fel gwyliwr i Wasanaeth Awyr y Llynges Frenhinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Gyda’i gilydd fe gychwynasant fenter feiddgar nodweddiadol Brydeinig. Gan ddechrau drwy ddatblygu platiau gwydr ffotograffig mewn ystafell ymolchi yng ngwesty Clwb Hedfan Llundain yn Hendon, buont erbyn y diwedd yn cynhyrchu miloedd lawer o awyrluniau bob blwyddyn. Yr hyn a wnaethant oedd cymryd technoleg a gawsai ei defnyddio gyntaf i gasglu cudd-wybodaeth filwrol a’i haddasu ar gyfer y farchnad dorfol. O ganlyniad, bu Aerofilms yn gweithredu yn ystod cyfnod o newid mawr a chyflym ym Mhrydain a chynhyrchodd y cwmni fwy nag 1.2 filiwn o awyrluniau, gan gofnodi digwyddiadau a lleoedd yr oedd iddynt le pwysig yn hanes Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Ar ôl goroesi chwalfa economaidd fyd-eang y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au a gwasanaethu eu gwlad ar gais personol Winston Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aethant yn eu blaen i helpu i lunio Prydain y dyfodol, gan gofnodi cynlluniau ailadeiladu mawr y 1940au a’r 1950au.
Yn 2007, cafodd casgliad Aerofilms ei brynu i’r genedl gan English Heritage, Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Foyle. Yn dilyn rhaglen i ddiogelu a digido rhai o’r negatifau plât gwydr mwyaf bregus, fel rhan o brosiect dwy flynedd o hyd a ddechreuodd yn 2012, cafodd 95,000 o’r lluniau cynharaf eu rhoi ar wefan Prydain Oddi Fry er mwyn i’r cyhoedd allu eu cyrchu. Heddiw, mae gan y wefan hon 78,752 o aelodau ac mae wedi derbyn mwy na 360,000 o gyfraniadau.
Rhai achlysuron pwysig a gofnodwyd yng Nghymru yw’r seremoni ger cofgolofn rhyfel y Senotaff, a oedd newydd ei chodi, yn ystod ymweliad Tywysog Cymru ym mis Tachwedd 1923; llonyddwch iasol Glofa Gresffordd fis ar ôl y trychineb erchyll ar 22 Medi 1934 pan laddwyd 266 o lowyr gan ffrwydrad enfawr a thân; Neuadd y Ddinas newydd Abertawe ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu ym 1935; a Gwaith Haearn Dowlais ym 1929. Mae’r holl ddelweddau cofiadwy hyn, yn ogystal â phob un arall sy’n ymwneud â Chymru, i’w cael ar Coflein.
Aerofilms: A History of Britain From Above Gan James Crawford, Katy Whitaker ac Allan Williams ISBN: 9781848022485 Pris adwerthu £25.00






05/09/2019